Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 1860

Oddi ar Wicipedia
Tudalen allan o Gyfrifiad UDA 1860

Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 1860 oedd yr wythfed Cyfrifiad a gynhaliwyd yn yr Unol Daleithiau[1]. Dechreuwyd y gwaith o gasglu'r wybodaeth ar 1 Mehefin, 1860, a pharhaodd am bum mis. Canfuwyd mai poblogaeth yr Unol Daleithiau oedd 31,443,321, cynnydd o 35.4 y cant ers Cyfrifiad 1850. Roedd cyfanswm y boblogaeth yn cynnwys 3,953,761 o gaethweision, yn cynrychioli 12.6% o'r boblogaeth gyfan.

Erbyn bod data'r cyfrifiad yn barod i'w echdynnu, roedd y genedl yn suddo i mewn i Ryfel Cartref America. O ganlyniad, cynhyrchodd Uwch-arolygydd y Cyfrifiad, Joseph C. G. Kennedy a'i staff, gyfres gryno o adroddiadau cyhoeddus yn unig, heb sylwadau graffig na chartograffeg. Roedd yr ystadegau'n caniatáu i staff y Cyfrifiad gynhyrchu arddangosiad cartograffeg, gan gynnwys paratoi mapiau o daleithiau'r De, ar gyfer rheolwyr maes yr Undeb. Dangosodd y mapiau hyn gwybodaeth milwrol hanfodol, gan gynnwys faint a lleoliad y boblogaeth wen, poblogaeth gaethweision, prif gynhyrchion amaethyddol (yn ôl y sir), a llwybrau trafnidiaeth ar y rheilffyrdd ac ar y ffyrdd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.