Cnonyn Aflonydd

Oddi ar Wicipedia
Cnonyn Aflonydd
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurAngharad Tomos
CyhoeddwrGwasg Gwynedd
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Gorffennaf 2001 Edit this on Wikidata
PwncCofiannau
Argaeleddmewn print
ISBN9780860741749
Tudalennau272 Edit this on Wikidata
GenreLlyfrau ffeithiol
CyfresCyfres y Cewri: 23

Hunangofiant gan Angharad Tomos yw Cnonyn Aflonydd. Gwasg Gwynedd a gyhoeddodd y gyfrol yn y gyfres Cyfres y Cewri a hynny yn 2001. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Ymgyrchwraig dros y Gymraeg yn ystod yr 1980au a'r 1990au yw Angharad Tomos, enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac awdures y gyfres o straeon i blant am Rwdlan a'i ffrindiau. Ceir 44 ffotograff du-a-gwyn.

Hanes sydd yma am berson sy'n arddel egwyddorion cryf. Mae ymrwymiad yr awdur i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg ac, yn fwyaf arbennig, ei rôl allweddol ym mywyd a gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith, yn cael sylw mawr. Ond daw egwyddorion pwysig eraill i'r amlwg hefyd – yr ymrwymiad cadarn at y ffydd Gristnogol ac at eglwys leol, ynghyd â phwysigrwydd cyfiawnder byd-eang. Mae'r teulu yn hanfodol bwysig iddi hefyd a chawn ddarlun o rieni arbennig ac o bump o chwiorydd.

Mae edmygedd yr awdur o rai cyfeillion yn gwbl amlwg, ond efallai yn llai gwresog at gyn-gydweithwyr o fewn Cymdeithas yr Iaith sydd bellach yn rhan o'r sefydliad Cymreig/Prydeinig. Y darlun sy'n aros yw un o berson sy'n cydnabod y pwysau sydd arni i gydymffurfio a chyfaddawdu ond sydd hefyd wedi ymdrechu, a llwyddo, i ddal gafael yn yr egwyddorion sydd wedi bod yn gynhaliaeth i'w bywyd. Mae ein hedmygedd ohoni yn fwy oherwydd hyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  • Mae rhan o'r erthygl hon wedi'i sgwennu ar wefan Gwales, gan Richard H. Morgan.


Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.