Cyfreithiau'n ymwneud â llosgach

Oddi ar Wicipedia

Perthynas rywiol rhwng pobl sy'n perthyn yn agos i'w gilydd ydy llosgach, a gall fod yn anghyfreithlon yn dibynnu ar yr awdurdodaeth. Amrywia'r union ddiffiniad o losgach o wlad i wlad, yn dibynnu ar y berthynas rhwng y personau a'r math o berthynas rywiol. Gall y gyfraith amrywio hefyd o fewn taleithiau neu ranbarthau o fewn gwlad. Gall y cyfreithiau hyn gynnwys priodas rhwng pobl sy'n perthyn yn agos.

Pan fod llosgach yn ymwneud ag oedolyn a phlentyn, math o gamdriniaeth rhywiol o blant ydyw sy'n anghyfreithlon ym mhob gwlad datblygedig.[1][2]

Lloegr a Chymru[golygu | golygu cod]

Mae llosgach yn anghyfreithlon yn Lloegr a Chymru, ac mae hyn yn cwmpasu perthynas heterorywiol neu gyfunrywiol rhwng person a'u rheini, mamgu neu dadcu, plant, wyron, siblingiaid, hanner-siblingiaid, ewythr, modrybedd, nau neu nith. Gellir dedfrydu person sy'n euog o losgach i hyd at 14 mlynedd o garchar. Enw'r ddeddf sy'n gwneud llosgach yn anghyfreithlon ydy'r Troseddau Rhyw Teuluol a chânt eu gwahardd o dan Adrannau 64 a 65 o'r Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003[3] sydd wedi disodli yr hen droseddau Llosgach gan Wryw a Llosgach gan Fenyw a welwyd yn Neddf Troseddau Rhwyiol 1956.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Levesque, Roger J. R. (1999). Sexual Abuse of Children: A Human Rights Perspective. Indiana University Press
  2.  United Nations Convention on the Rights of the Child. Office of the United Nations High Commissioner for Human Rights (1989).
  3. http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2003/ukpga_20030042_en_5