Cyfraith Droseddol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhennir Cyfraith yr Alban yn ddwy rhan: cyfraith droseddol a chyfraith sifil. Yng nghyfundrefn droseddol y llywodraeth (neu'r Goron) erlidir er mwyn gwarchod y cyhoedd. Yng ngh hyfundrefn cyfraith sifil ceir achosion rhwng unigolion neu gorfforaeth neu gyrff arall a'r cyhoedd. Yn aml maent yn delio a materion sydd yn y bôn yn ariannol neu heb elfen droseddol, dreisiol.

Yn y gyfraith droseddol gelwir yr achosion llai difrifol yn 'Achosion Diannod' (gweler: trosedd ddiannod) a gelwir yr achosion difrifol yn drosedd dditiadwy.[1][2]

Trosedd dditiadwy[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr Alban defnyddir y term Solemn am achosion difrifol. Mewn llawer o awdurdodaethau cyfraith gyffredin (ee Cymru a Lloegr, Iwerddon, Canada, India, Awstralia, Seland Newydd), defnyddiir y term "indictable offences" neu droseddau ditiadwy. Mae rhain yn droseddau y gellir ond eu rhoi ar brawf ar dditiad ar ôl gwrandawiad rhagarweiniol i bennu a oes achos prima facie i'w hateb neu gan reithgor (yn wahanol i drosedd ddiannod summary offence). Yn yr Unol Daleithiau gelwir hyn yn drosedd ddifrifol neu ffeloniaeth, sydd hefyd yn gofyn am dditiad.

Mewn perthynas a'r Alban, Cymru a Lloegr, mae'r ymadrodd "trosedd dditiadwy" yn cael ei ddiffinio fel trosedd sydd wedi'i chyflawni (gan oedolyn) sy'n ddifrifol, er enghraifft trais a llofruddiaeth. Yng Nghymru a Lloegr caniateir i'r diffynnydd ddewis rhwng cael ei brofi gan reithgor yn Llys y Goron neu prawf diannod yn Llys yr Ynadon. Ond nid os yw'r ffeithiau yn awgrymu bod pwerau dedfrydu'r ynadon yn annigonol i adlewyrchu difrifoldeb y drosedd. Yn yr Alban mae'r Procuradur Ffisgal yn perderfynnu ar bob achos. Mae'r rheolau yn wahanol yng Nghymru a Lloegr mewn perthynas â'r rhai o dan 18 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi ar-lein; adalwyd 22 Tachwedd 2014
  2. Y Porth Termau Cenedlaethol ar-lein; adalwyd 2 Tachwedd 2014

Gweler adran 14 (a) o Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977. (Cymru a Lloegr)