Cyfraith yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llywodraeth yr Alban: y fan lle mae Cyfreithiau'r Alban yn cael eu creu.

Cyfraith yr Alban yw cyfundrefn gyfreithiol yr Alban. Mae'n gyfundrefn gyfreithiol gymysg, sy'n cynnwys cyfraith sifil ac elfennau o gyfraith gyffredin, sy'n olrhain ei gwreiddiau i nifer o ffynonellau hanesyddol.[1][2] Ynghyd â chyfraith Cymru a Lloegr a chyfraith Gogledd Iwerddon, mae'n un o dair cyfundrefn cyfreithiol y Deyrnas Unedig.[3]

Mae'n rhannu elfennau gyda'r ddwy gyfundrefn arall, ond mae ganddi hefyd ei ffynonellau unigryw ei hun. Dechreuwyd Gyfraith yr Alban cyn yr 11g, yn cynnwys elfennau cyfreithiol y Pictiaid, Gaeliaid, Brythoniaid, Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr. Wrth sefydlu ffiniau Teyrnas yr Alban sefydlwyd gwreiddiau Cyfraith yr Alban, a gafodd ei dylanwadu hefyd gan draddodiadau cyfandirol e.e. cyfeirir at gyfraith Rufeinig, mewn ffurf wedi'i addasu, lle nad oedd gan yr Albanwyr frodorol reol i ddatrys anghydfod.

Mae Cyfraith yr Alban yn cydnabod pedair ffynhonnell o gyfraith: deddfwriaeth, cynsail cyfreithiol, ysgrifau academaidd penodol ac arferiad. Gall deddfwriaeth sy'n effeithio ar yr Alban gael ei basio gan Senedd yr Alban, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd Ewrop, a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhywfaint o ddeddfwriaeth a basiwyd cyn-1707 gan hen Senedd yr Alban yn dal i fod yn ddilys. Ers Deddf Uno â Lloegr 1707, mae'r Alban wedi rhannu ddeddfwrfa â Chymru a Lloegr ond fe gedwodd yr Alban ei chyfundrefn gyfreithiol yn sylfaenol wahanol i'r un i'r de o'r ffin. Mae'r Undeb i ffurfio Prydain wedi dylanwadu yn fawr ar gyfraith yr Alban. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfraith yr Alban hefyd wedi cael ei effeithio gan gyfraith Ewrop o dan ddylanwad Deddf Hawliau Dynol 1998 er mwyn cydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (CEHD). Wedi datganoli ac ailsefydlu Senedd yr Alban gall Senedd yr Alban basio deddfwriaeth o fewn pob ardal datganoledig, fel y nodir gan Ddeddf yr Alban 1998.[4][5]

Yr Alban fel Awdurdodaeth Gyfreithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Cyfraith y Deyrnas Unedig yn lled-ffederal ac yn ffurfio tair awdurdodaeth ar wahân :.

  • Cymru a Lloegr
  • Yr Alban a
  • Gogledd Iwerddon

Mae gwahaniaethau pwysig rhwng y Gyfraith yn yr Alban a chyfraith Cymru a Lloegr yn y cyfreithiau canlynol: eiddo, troseddol, cyfraith ymddiriedolaeth, cyfraith etifeddiaeth, tystiolaeth a theuluol er bod tebygrwydd mewn meysydd cenedlaethol megis y gyfraith fasnachol, hawliau, trethiant, cyflogaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch.[6]

Mae'r gwahaniaethau Cyfraith Droseddol yn cynnwys;

- oed cymhwyster cyfreithiol (16 oed yn yr Alban, 18 oed yng Nghymru a Lloegr),

- rheithgorau 15-aelod ar gyfer treialon troseddol yn yr Alban (o gymharu â 12 yng Nghymru a Lloegr)

- penderfynu drwy fwyafrif syml,

- y ffaith nad oes gan y diffynydd mewn llys troseddol yr hawl i ddewis rhwng llys gyda rheithgor neu heb reithgor,

- mae "trydydd dyfarniad" o "heb eu profi" yn bosibl

Ceir hefyd gwahaniaethau terminoleg rhwng y awdurdodaethau. Yn yr Alban nid oes Llys Ynadon neu Llys y Goron, ond mae Llys Ustus Heddwch (sef Ymadon) a Llys Siryf a'r Uchel Lys. Mae'r Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal yn darparu'r gwasanaeth erlyn cyhoeddus sy'n cyfateb i wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr.

Cyfraith Droseddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhennir Cyfraith yr Alban rhwng Cyfraith Droseddol a'r Gyfraith Sifil

Cyfraith Sifil[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Gyfraith Sifil yn dilyn y llwybr isod - yn dibynnu ar werth ariannol yr achos yn bennaf.

Y Goruchaf Lys[golygu | golygu cod y dudalen]

Does dim apêl i'r Goruchaf Lys o'r gyfundref droseddol yn yr Alban heblaw achos seiliedig ar Hawliau Dynol neu Gyfraith Ewropeiadd. Mae rôl y Pwyllgor Apeliadol Ty’r Arglwyddi wedi symud i'r Goruchaf Lys o 2009 ymlaen yn cynnwys dyfarnu ar faterion sy'n ynwneud â Datganoli. Mae cyfrifoldebau'r Cyfrin Gyngor wedi symud i'r Goruchaf Lys o Bwyllgor Barnwrol y Cyfrin Gyngor

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Palmer, p. 201
  • Tetley, Part I
  • Stair, General Legal Concepts (Reissue), para. 4 (Online) Adalwyd 2011-11-29
  • Sch. 5 Scotland Act 1998
  • Devolved and reserved matters explained, Scottish Parliament, Adalwyd 2011-10-22
  • Gretton & Steven, p. 318