Cyflythreniad

Oddi ar Wicipedia

Mewn llenyddiaeth, cyfatebiaeth cytseiniau neu seiniau cyntaf geiriau yw cyflythreniad.[1] Mae cyflythreniad yn addurn cyffredin mewn llenyddiaeth, yn enwedig mewn barddoniaeth, ond gall digwydd mewn rhyddiaith rythmig hefyd.

Pan geir cyfatebiaeth cytseiniau yn unig fe'i gelwir yn gytseinedd. Ceir enghreifftiau niferus yng ngwaith beirdd Cymru a gwledydd eraill. Dyma enghraifft o un o gerddi Taliesin (6g OC), sef Gwaith Argoed Llwyfain:

Y bore duw Sadwrn cad fawr a fu
O'r pan ddwyre haul hyd pan gynnu.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morgan D. Jones, Termau iaith a llên (Gwasg Gomer, 1974).
  2. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, argraffiad newydd 1977, tud. 6. Diweddarwyd yr orgraff
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.