Cyflymydd gronynnol
Enghraifft o'r canlynol | nuclear technology ![]() |
---|---|
Math | dyfais, cyfleuster ![]() |
Rhan o | ffiseg cyflymydd ![]() |
![]() |
Mae cyflymydd gronynnol (Saesneg: Particle accelerator) yn ddyfais sy'n defnyddio cerrynt trydanol i yrru gronynnau gwefredig i fuaneddau (neu gyflymder) uchel. Mae teledu CRT yn ffurf syml o gyflymydd gronynnol.[1]

1. Sffêr metal, gwag
2. Electrod
3. Rholiwr uchaf (e.e. gwydr acrylig)
4. Ochr y gwregys gyda gwefr posydd
5. Ochr arall y gwregys gyda gwefr negydd
6. Rhowliwr isaf, metal
7. Electrod isaf (daearwyd)
8. Sffêr metal gyda gwefr negydd
9. Sbarc a gynhyrchwyd gan y gwahaniaeth mewn potensial.

Mae'r cyflymyddion mawr yn fwyaf adnabyddus o fewn ffiseg fel gwrthdrawyddion e.e. Gwrthdrawydd Hadronnau Mawr ar safle CERN yn y Swistir. Cânt hefyd eu defnyddio ar gyfer peiriannau mewn labordai oncoleg neu mewn astudiaeth o fater dwys mewn ffiseg. Credir bod dros 30,000 o gyflymyddion drwy'r byd.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Livingston, M. S.; Blewett, J. (1962). Cyflymydd gronynnol (Particle Accelerators). Efrog Newydd: McGraw-Hill. ISBN 1-114-44384-0.
- ↑ Witman, Sarah. "Ten things you might not know about particle accelerators". Symmetry Magazine. Fermi National Accelerator Laboratory. Cyrchwyd 21 Ebrill 2014.