Cyfernod adfer
Enghraifft o'r canlynol | Cyfernod |
---|---|
Math | nifer (diddimensiwn) |
Cyfernod adfer gwrthrych (Saesneg:Coefficient of restitution) neu Cyfernod yr adferiad (COR), a ddynodir hefyd gan (e), yw cymhareb y cyflymder cymharol terfynol i gyflymder cymharol cychwynnol rhwng dau wrthrych ar ôl iddynt wrthdaro. Dyma yw'r gwerth ffracsiynol sy'n cynrychioli'r gymhareb o fuaneddau cyn ac ar ôl gwrthdrawiad. Mae gwrthrych gyda chyfernod adfer = 1 yn gwrthdrawio'n elastig, tra bod gwrthrych efo cyfernod adfer < 1 yn gwrthdaro'n anelastig. Mae gwrthrych efo cyfernod adfer = 0 yn stopio mewn gwrthdrawiad heb adlamu o gwbl.
Hafaliad
[golygu | golygu cod]Dychmygwch gwrthdrawiad un dimensiwn. Labelwyd y cyflymder i'r cyfeiriad mympwyol yn posotif ac i'r cyfeiriad cyferbyniol yn negyddol.
Rhoddir y cyfernod adfer gan:-
Ar gyfer dau wrthrych sy'n gwrthdaro
- yw'r buanedd terfynol sgalar y gwrthrych cyntaf ar ôl y gwrthdrawiad
- yw'r buanedd terfynol sgalar yr ail wrthrych ar ôl y gwrthdrawiad
- yw'r buanedd dechreuol sgalar y gwrthrych cyntaf cyn y gwrthdrawiad
- yw'r buanedd dechreuol sgalar yr ail wrthrych cyn y gwrthdrawiad
Er nad yw'r hafaliad yn cyfeirio at fas, mae'n bwysig cofio bod yr hafaliad yma yng nghlwm efo mas gan fod y buaneddau terfynol yn dibynnu ar y masau.