Cyfarwyddiadur Addoliad Cyhoeddus

Oddi ar Wicipedia
Tudalen teitl Cyfarwyddiadur Addoliad Cyhoeddus

Llawlyfr o gyfarwyddiadau i addoli oedd Cyfarwyddiadur Addoliad Cyhoeddus (Saesneg: Directory for Public Worship).[1] Cymeradwywyd ef gan y Senedd Faith yn gynnar ym 1645 er mwyn cymryd lle'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Adwaenir y llawlyfr fel Cyfarwyddiadur Westminster yn yr Alban, lle y'i cymeradwywyd gan ei Senedd hi ym 1645.

Gwreiddiau[golygu | golygu cod]

Aeth y mudiad yn erbyn y Llyfr Gweddi Gyffredin, a ysbrydolwyd yn rhannol gan y Senedd, i'r pen pan gyflwynwyd y Ddeiseb Gwreiddyn a Changen ym 1640, a fynnai y "dylid diddymu y llywodraeth honno [sef, y gyfundrefn esgobol] gyda'i holl ddibynyddion, gwreiddiau a changhennau". Ymhlith y "canghennau" hyn, roedd y Llyfr Gweddi Gyffredin a ystyrid yn "litwrgi a luniwyd at ei gilydd o'r Brefiari [llyfr gwasanaeth], y Defodau, [ac] y Lyfr Offeren Pabyddol". Felly ym 1641 cyflwynwyd crynhoad o Lyfr Trefn Gyffredin John Knox i'r Senedd. Dair blynedd yn ddiweddarach, cyflwynwyd addasiad arall o'r un llyfr i Gymanfa Westminster a'i argraffu. Er hynny, penderfynodd y diwinyddion gynhyrchu eu llyfr eu hun ac felly sefydlasant bwyllgor er mwyn cytuno ar restr o gyfarwyddiadau, yn hytrach na ffurf addoli, i weinidogion â gofal cynulleifaoedd. Er i'r Llyfr Gweddi Gyffredin Seisnig gael ei ddefnyddio yn gynnar yn yr Alban, litwrgi sefydlog ydyw, sydd yn darparu nifer o weddïau sefydlog a thablau manwl o lithoedd gosod. Mae'n anodd ei gymharu â'r Cyfarwyddiadur felly. Serch hynny, nid yw'r Cyfarwyddiadur yn dilyn y Llyfr Trefn Gyffredin a ddefnyddiwyd yn yr Alban o 1564 ac sydd yn deillio o Ffurf Gweddïau gan Knox a ddefnyddiwyd yn y Gynulleidfa Seisnig yng Ngenefa. Yn y llyfr hwn, ceir rhyddid yng ngeiriad y gweddïau ac nid oes llithiadur.

Cynhyrchwyd y Cyfarwyddiadur gan is-bwyllgor seneddol dan y cadeirydd Stephen Marshal. Roedd yr aelodau eraill yn cynnwys Thomas Young, Herbert Palmer a Charles Herlie. Phylip Nye and Thomas Goodwin a oedd yn cynrychioli'r cynulleidfaoedd annibynnol ac Alexander Henderson, Robert Baillie, George Gillespie and Samuel Rutherford a gynrychiolai'r Alban.[1] Ymddengys y testun yn null ysgrifennu Phylip Nye.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

I ryw raddau, roedd y Cyfarwyddiadur yn gyffelyb i agenda, ond llawlyfr o ymarfer bugeiliol ydoedd hefyd, gan gynnwys adran fawr ar ymweld â chleifion ac un fanwl ar bregethu. Dengys y llyfr farn yr awdur mai dim ond yr hyn sydd yn echblyg yn yr Ysgrythurau a gaiff ei wneud wrth addoli Duw yn gyhoeddus, naill ai drwy orchymyn, cyngor neu enghraifft echblyg neu drwy resymu diddwythol o'r Ysgrythurau.

Mae'r Cyfeiriadur yn eu pwysleisio rhai o'r pethau isod:

Darllen yr Ysgrythurau oedd canolbywnt y ffurfwasanaeth. Roedd yr Ysgrythurau canonaidd i'w darllen yn eu trefn, bennod o'r ddau Destament ar y tro, ac yna bu gweddi osod a phregeth gan y weinidog fel y byddai'n "effeithio'n gyfiawn ar ei galon ef a chalonnau ei wrandawyr oblegid eu pechodau".

Dylai bedydd fod yn yr un oedfa gan ddefnyddio bedyddfaen y gallai'r bobl ei weld lle y gallent glywed, yn hytrach nag wrth fynedfa'r eglwys yn ôl yr arfer gynt. Rhoddid gwers hir cyn y ddefod, a wnaeth y pwynt, ymhlith pethau eraill, nad oedd y feddydd mor angenrheidiol er mwyn osgoi damnedigaeth y plentyn ac euogrwydd y rhieni. Roedd hyn oherwydd bod plant ffyddloniaid "yn Gristionogion ac yn sanctaidd yn gyfamodol cyn eu bedyddio". Roedd yn rhaid gweddïo y byddai bedydd fewnol yr Ysbryd yn dod yn ogystal â'r feddydd allanol â dŵr.

Roedd y Cymun i'w ddathlu ar ôl oedfa'r bore ac yn aml hefyd, er nad oedd yn eglur cyn amled y dylid gwneud hyn. Roedd Cymun ddwy neu bedair gwaith y flwyddyn yn ddigon, ond roedd rhai eglwysi Piwritanaidd yn Lloegr yn ei gadw bob mis a rhai Anglicaniaid unwaith y flwyddyn. Dylai'r rhai a ddymunai'r Cymun eistedd "am" neu "wrth" y bwrdd Cymun. Cyfaddawd oedd yr arddodiaid hyn rhwng barn yr Albanwyr bod yn rhaid eistedd o gwmpas bwrdd a'r farn gyffredin yn Lloegr mai ei gymryd yn y seddau oedd y drefn. Daeth geiriau'r cyfarwyddiadau o'r Efengylau neu waith Paul a rhan hanfodol o'r dathliad oeddynt, wedi'u dilyn gan weddi o ddiolchgarwch "er mwyn sicrhau ei bresenoldeb trugarog a grymus weithrediad ei Ysbryd ynom; ac felly er mwyn sancteiddio'r elfennau hyn, y bara a'r gwin, a bendithio Ei orchymyn Ei hun, fel y derbyniom trwy ffydd gorff a gwaed Iesu Grist a groeshoeliwyd drosom, ac felly ymborthom arno fel y byddo Ef yn un â ni, a ninnau gydag Ef, ac fel y byddo yn byw ynom a ninniau ynddo ac ato Ef, a'n carodd ac a'i rhoddodd Ei hun drosom ni". Wedyn, roedd y gweinidog i dorri a rhannu'r bara a'r gwin hefyd. Dylid trefnu'r casgliad i'r tlodion fel na fyddai'n ymharu ar yr oedfa mewn unrhyw ffordd.

Roedd priodas yn cynnwys elfennau megis y ddwy blaid yn cytuno, cyhoeddi eu bwriad i briodi a gwasanaeth crefyddol mewn addoldy cyhoeddus ar unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn ond, o ddewis, nid ar Ddydd yr Arglwydd. Roedd gweddi, eglurhad o darddiad a diben priodas, ymholiad am unrhyw rwystr i'r briodas, cyfnewid llwon, cyhoeddiad bod y ddau yn ŵr a gwraig ac yna gweddi i gloi. Dylid cadw cofnod o'r priodasau.

Nid oedd seremoni wrth gladdu gan y dywed fod ofergoelion a chamddefnyddiadau wedi digwydd yn y gorffennol. Serch hynny, roedd y gweinidog i fod i atgoffa cyfeillion yr ymadawedig am eu dyletswydd i wella'r digwyddiad a chaniateid "dangos parch moesgar addas i radd a dosbarth y trancedig" yn y gladdedigaeth.

Rhaid nodi'r gwrth-ddadleuon i'r Cyfeiriadur gan y Dr Henry Hammond, a fyddai'n gaplan i Siarl I yn nes ymlaen, yn ei waith "Golwg ar y Cyfeiriadur Newydd a Chyfiawnhad tros Litwrgi Hynafol Eglwys Loegr" a gyhoeddodd yn Rhydychen ym mis Awst 1645. Noda chwe nodwedd syflaenol nad ydynt yn y Cyfeiriadur: (1) ffurf neu litwrgi penodedig, (2) addoliad allanol neu gorfforol, (3) unffurfiaeth mewn addoliad, (4) cyfraniad y gynulleidfa drwy ateb gweddïau, emynau a darlleniadau, (5) rhannu gweddïau mewn nifer o gasgliadau, (6) defodau fel glinio yn y Cymun, gwneud arwydd y Groes mewn bedydd a'r fodrwy mewn priodas. Trafodwyd (1) eisoes ond o ran (2), fe osgoid defodau ac ystumiau allanol, megis ymgrymu tuag at y dwyrain. Ynglŷn â (3), y bwriad oedd unffurfiaeth yn y gwahanol rannau o'r addoliad ond nid yn y geiriau, ac nid oedd y Cyfeiriadur mor wrthwynebol i bwyntiau (4) a (5) fel yr oedd Hammond yn ei awgrymu, er nad yw i'w weld yn gadarnhaol iawn o ran canu. Ynghylch (6), bu glinio yn y Cymun ac arwydd y Groes mewn beddydd yn arwyddocaol o ddadleuol ers amser maith yng ngwahanol garfannau Eglwys Loegr.

 Hammond ymlaen i nodi 16 eitem a osgoir yn y Cyfeiriadur sydd wedi'u cysylltu â'r rhannau o'r oedfa: (1) datgan maddeuant pechodau, (2) angen canu salmau ac emynau eraill yr eglwys, (3) defnyddio'r fawlgan, (4) defnyddio credoau hynafol, (5) defnyddio Gweddi'r Arglwydd a gweddïau dros y brenin yn aml, (6) dygwyliau seintiau a'r flwyddyn Gristionogol, (7) darllen y gorchmynion a'r gweddïau cysylltiedig, (8) trefn yr offrwm, (9) bedyddio preifat, (10) catecism gosod (ond, ymdriniwyd â hyn gan gyhoeddiadau diweddarach y Gymanfa), (11) bedydd esgob, (12) defodau claddu er mwyn y rhai byw, (13) diolchgarwch ar ôl geni, (14) Cymun i'r cleifion, (15) oedfa'r Cymun ar ddechrau'r Grawys ac (16) cadw'r Grawys, dyddiau'r Gweddïau ac wythnosau'r Cydgoriau.

Defnyddid sawl un o'r rhain (1-5, 7, 10) mewn rhai eglwysi Diwygiedig eraill, ond nid yn y mwyafrif. Fel ymateb i'r safbwynt bod y Cyfeiriadur yn amlinellu oedfa ddiflas, ddiddychymyg, rhaid peidio â thanamcangyfrif darluniau llafar yr oedfa Biwritanaidd a oedd wedi'u seilio ar y Beibl.

Ei ddefnydd gan Eglwys Loegr[golygu | golygu cod]

Mewn rhai rhannau o'r wlad, yn enwedig Llundain a Swydd Gaerhirfryn, sefydlwyd henaduriaethau Presbyteraidd ym 1646 a weithredai hyd Adferiad Siarl II ym 1660. Er nad oedd pawb yn dilyn y drefn hon yn yr ardaloedd hyn, ceir tystiolaeth dda i lawer o'r plwyfi brynu a defnyddio'r Cyfeiriadur. Mae'n debyg iddo gael ei ddefnyddio ym mhlwyfi gweinidogion Cynulleidfaol neu Annibynnol. Er hyn, lleiafrif oedd y plwyfi na dderbyniasant y Cyfeiriadur, a bu defnyddio'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn gyfrinachol ar draws y wlad, yn enwedig mewn angladdau. Mae'n eglur bod y Cyfeiriadur yn amhoblogaidd gan y rhan fwyaf o'r werin bobl. Gellir casglu'r peth o'r dystiolaeth orau am ei ddefnyddio o'r ymatebion negyddol iddo, yn enwedig y gostyngiad yn nifer y bedyddiadau yn y plwyfi a dderbyniodd y Cyfeiriadur.

Ei ddefnydd gan Eglwys yr Alban[golygu | golygu cod]

Mabwysiadodd Cymanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban Gyferiadur Westminster yn ystod ei 10fed Eisteddiad ar 3 Chwefror 1645. Er hynny, wrth dderbyn testun y Cyfeiriadur, darparodd y Gymanfa nifer o eglurhadau ac yn nes ymlaen yn ystod eu 14eg Eisteddiad ar 7 Chwefror 1645, darparodd ragor i'w rhoi ar waith o fewn Eglwys yr Alban.[2]

Roedd y deddfau mabwysiadol, felly, yn ceisio cadw traddodiadau ac arferion Eglwys yr Alban pan oeddent yn wahanol i rai Eglwys Lloegr, p'un ai Piwritanaidd neu Annibynnol, ond iddynt beidio â pheri tramgwydd i'r eglwysi Seisnig.[3] Roedd y gwahaniaethau hyn yn cynnwys, er enghraifft, yr Albanwyr yn dod ymlaen i eistedd o flaen y bwrdd Cymun, y cymunwyr yn rhannu bara a gwin ymlith eu gilydd a "phregeth o Ddiolchgarwch" wedi'r Cymun. Serch hynny, fe roddodd Cyfeiriadur Westminster derfyn ar "Wasanaeth Darllenwyr" yr Alban ac ar weinidogion yn plygu i'r pulpud i weddïo cyn y bregeth.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • W. A. Shaw, A History of the English Church during the Civil War and under the Commonwealth 1640-1660, 2 cyf. (Llundain, 1900)
  • F. Proctor, A New History of the Book of Common Prayer, diw. W. H. Frere (Llundain: Macmillan, 1919)
  • Judith Maltby, Prayer Book and People in Elizabethan and Early Stuart England (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1998)
  • John Morrill, "The Church in England 1642-9", in Reactions to the English Civil War, ed. John Morrill (Macmillan: Basingstoke, 1982), pp 89–114, ailargraffwyd yn John Morrill, The Nature of the English Revolution (Llundain: Longman, 1993)
  • Christopher Durston, "Puritan Rule and the Failure of Cultural Revolution, 1645-1660", yn The Culture of English Puritanism, 1560–1700, gol. Christopher Durston a Jacqueline Eales (Basingstoke: Macmillan, 1996), tt. 210-233
  • Minutes of the Manchester Presbyterian Classis, gol. W. A. Shaw, 3 cyf., Chetham Society, y gyfres newydd, 20, 22 a 24 (1890-1)

Nodyn[golygu | golygu cod]

  1. ^ A Directory for Public Worship of God throughout the Three Kingdoms of England, Scotland, and Ireland. Together with an Ordinance of Parliament for the taking away of the Book of Common Prayer, and the Establishing and Observing of this Present Directory throughout the Kingdom of England and the Dominion of Wales' oedd yr enw llawn yn Saesneg. CHARLES I. Parl. 3. Sess. An ACT of the PARLIAMENT of the KINGDOM of SCOTLAND, approving and establishing the DIRECTORY for Publick Worship. AT EDINBURGH, February 6, 1645 oedd enw llawn y Ddeddf Albanaidd ym 1645.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lukas Vischer, Christian Worship in Reformed Churches Past and Present (Grand Rapids, MI: William B. Eerdmans, 2003), tt. 78-79
  2. Acts of the General Assembly of the Church of Scotland, 1638-1842 (Caeredin: Edinburgh Printing and Publishing, 1843) tt. 115-16, 120-21
  3. George Washington Sprott, The Worship and Offices of the Church of Scotland (Caeredin: William Blackwood and Sons, 1882)
  4. Sprott, The Worship and Offices of the Church of Scotland a Bryan Chapell, Christ-Centered Worship: Letting the Gospel Shape Our Practice (Grand Rapids, MI: Baker Academic, 2009)

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]