Cwmni ceir Peel

Oddi ar Wicipedia
Peel P50 o 1964

Cwmni ceir bychain o Peel, ynys Manaw yw Peel. Mae ei car Peel P50 yn enwog am fod y car lleiaf yn y byd. Profwyd hyn ar Top Gear yn 2007 pan gyrrodd Jeremy Clarkson trwy adeilad y BBC ac yn y gêm diweddar Forza Horizon 4. Dim ond tair olwyn oedd gan y Peel ac roedd yr un olwyn gefn yn cael ei phweru gan injan fechan oddi tan y sedd. Er fod y car yn syniad arbennig o dda, dim ond 47 ohonynt gwerthwyd i'r cyhoedd.