Cwch gwynt â chragen anhyblyg

Oddi ar Wicipedia
Un o gychod gwynt anhyblyg Sefydliad Brenhinol y Badau Achub yn Aberfal, Cernyw.

Cwch gwynt gyda gwaelod caled ac ochrau hyblyg yw cwch gwynt â chragen anhyblyg (RHIB)[1] neu gwch gwynt anhyblyg (RIB;[2] enwau amgen: cwch pwmpiadwy â chragen anhyblyg,[3] cwch chwyddadwy â chragen anhyblyg). Defnyddir fel cwch pleser, bad achub, a gan y lluoedd arfog.

Dyfeisiwyd yn y 1960au gan staff a myfyrwyr Coleg yr Iwerydd, Bro Morgannwg. Mae gan y coleg orsaf bad achub, ac roedd y dingis rwber a arferai'r coleg eu defnyddio yn medru rhwygo ar y creigiau. Arweiniodd Desmond Hoare, cyn Ôl-lyngesydd y Llynges Frenhinol a phrifathro cyntaf y coleg, prosiect i greu cwch gwynt allai wrthsefyll tywydd garw Môr Hafren a chael ei lusgo dros y traeth graenog rhwng y coleg a'r môr.[4] Yn ôl David Sutcliffe, aelod o'r staff ar y pryd, "y peth pwysicaf oedd y syniad i ddod at ei gilydd y gragen uchel ei pherfformiad a thiwb rwber". Adeiladwyd o leiaf 30 o gychod arbrofol gan anelu at gwch cyflym, ysgafn a phwerus.[3] "Naomi" oedd enw'r cwch gwreiddiol.[5] Adeiladodd dau fyfyriwr o'r Iseldiroedd cwch â chragen anhyblyg, y Psychedelic Surfer, mewn tair wythnos ar gyfer y Ras Cychod Pŵer o Amgylch Prydain ym 1969, ac a orffennodd yn bedwaredd ar bymtheg allan o dros 60 o gystadleuwyr.[3][4]

Gwelodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) potensial y cwch, ac wedi profi sawl bad arfbrofol aethant ati i greu model ffibr gwydrog, y B-Class Atlantic 21, oedd yn anrhydeddu'r ysgol yn ei enw. Yr arloesiad olaf i greu'r Atlantic 21 oedd cael gwared â’r trawslath, sef y byrddau ôl sy’n cadw’r dŵr allan mewn cwch cyffredin ond mewn cwch gwynt anhyblyg roedd gwaredu’r trawslath yn caniatáu i’r dŵr lifo allan o gefn y cwch.[4] Rhoddwyd patent i Desmond Hoare ym 1969 am gwch gwynt â chragen anhyblyg nofiadwy. Ym 1974 gwerthodd Desmond Hoare y patent i'r RNLI am £1, er heddiw credir iddo fod gwerth £15 miliwn y flwyddyn.[6] Daeth yr Atlantic 21 yn rhan o fflyd yr RNLI ym 1972, ac erbyn 1993 roedd wedi bod allan 15,601 o weithiau, gan achub 4,717 o fywydau. Erbyn heddiw, mae'r RNLI yn defnyddio'r B-class Atlantic 75 ac Atlantic 85.[3] Rhoddwyd Gwobr Treftadaeth Peirianneg i'r cwch gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn 2015.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. O'r Saesneg: rigid-hulled inflatable boat.
  2. O'r Saesneg: rigid inflatable boat.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3  Cwch chwyldroadol gan fyfyrwyr Coleg yr Iwerydd. BBC (17 Mai 2011). Adalwyd ar 9 Hydref 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2  Meddyliwch am fad achub?. Amgueddfa Genedlaethol Cymru (6 Mai 2011). Adalwyd ar 9 Hydref 2013.
  5. 5.0 5.1  Gwobr beirianyddol i gwch achub myfyrwyr. BBC (31 Mai 2015). Adalwyd ar 31 Mai 2015.
  6. (Saesneg) Hoare's RIB. Y Swyddfa Eiddo Deallusol. Adalwyd ar 9 Hydref 2013.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Sutcliffe, David. The RIB: The Rigid-Hulled Inflatable Lifeboat and its Place of Birth - the Atlantic College (Granta, 2010). ISBN 1857571010