Culfor Cook
Jump to navigation
Jump to search
Culfor rhwng Ynys y Gogledd ac Ynys y De yn Seland Newydd ydy Culfor Cook. Cysyllta â Môr Tasman i'r gorllewin a'r Cefnfor Tawel i'r dwyrain.
I'r de, rhed yr arfordir am 30 kilomedr (19 milltir) ar hyd Bae Cloudy, heibio i ynysoedd a mynedfeydd y Marlborough Sounds. I'r gogledd, rhed yr arfordir am 40 kilomedr (25 milltir) ar hyd Bae Palliser, gan groesi mynediad i harbwr Wellington, heibio i rai o faesdrefi Wellington gan barhau am 15 kilomedr (9.3 milltir) i draeth Makara.
Enwyd y culfor ar ôl y fforwr James Cook.