Cronica de Wallia
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Iaith | Cymraeg, Lladin |
Dyddiad cyhoeddi | 13 g |
Dechrau/Sefydlu | 13 g |
Yn cynnwys | Rhys ap Gruffudd |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ceir dau destun anghyflawn o gronicl Lladin am y cyfnod 1190-1285 yn y llawysgrif Exeter Cathedral Library MS. 3514; gelwir y testun helaethaf Cronica de Wallia ("Cronicl Cymru") a gellid ei ystyried yn bont rhwng yr Annales Cambriae a'r testunau Lladin coll o Frut y Tywysogion.
Mae'r testun helaethaf (Testun I) yn croniclo'r blynyddoedd 1190-1266, gyda bwlchau am 1217-1227, 1229, 1232, 1249-1253 a 1263.
Mae Testun II yn rhestr o aelodau tylwyth Rhys ap Gruffudd ap Rhys o'r Deheubarth.
Mae Testun III yn barhad o Destun II. Ar ei ôl ceir cronicl o Oesoedd y Byd sy'n gorffen gydag adran sy'n gyfateb yn fras i gronicl Cymreig Testun I ac yn ei ymestyn hyd y flwyddyn 1285 (heb 1267-1273, 1275 a 1280).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Thomas Jones (gol.), Cronica de Wallia and other Documents from Exeter Cathedral Library MS. 3514 (allbrint o Fwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, cyfrol xii, rhan i-iii, Tachwedd 1946). Rhagymadrodd, y testunau Lladin a mynegai.