Crimpiau
Gwedd
| Math | copa, bryn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Conwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 475 metr |
| Cyfesurynnau | 53.11817°N 3.8946°W |
| Cod OS | SH7330359567 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 91 metr |
| Rhiant gopa | Creigiau Gleision |
| Cadwyn fynydd | Y Carneddau |
![]() | |
Mynydd yn Eryri yw'r Crimpiau. Cyfeirnod AO: SH 733 596. Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Sir Conwy tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Capel Curig. Dyma estyniad deheuol olaf y Carneddau, er nad yw'n cyfrif fel rhan o brif gadwyn y mynyddoedd hynny.
Gellir dringo i'r copa trwy ddilyn llwybr o Gapel Curig hyd at Llyn y Coryn, llyn bychan ger y bwlch rhwng Crimpiau a Chlogwyn Cigfran i'r de. O'r bwlch mae llwybr yn dringo i'r copa. Mae'r prif lwybr yn parhau ar draws llethrau gogledd-orllewinol Crimpiau ac yn mynd i ben Creigiau Gleision, i'r gogledd.
