Craiglyn Dyfi
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Creiglyn Dyfi)
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llanuwchllyn, Mawddwy |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.0571 km² |
| Uwch y môr | 577 metr |
| Cyfesurynnau | 52.788344°N 3.680607°W |
![]() | |
Llyn ar lethrau dwyreiniol Aran Fawddwy yng Ngwynedd yw Craiglyn Dyfi neu Creiglyn Dyfi. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 15 acer, mewn cwm 1,905 troedfedd uwch lefel y môr. Mae'r nant sy'n llifo ohono yn dwyn yr enw Llaethnant, sy'n llifo tua'r dwyrain ac yn ymuno â nentydd eraill i ffurfio Afon Dyfi.
Ceir nifer o draddodiadau am y llyn, yn cynnwys un am gawr oedd yn byw yn yr ardal ac a oedd yn ymlochi yn y llyn bob Calan Haf i sicrhau ieuenctid tragwyddol. Roedd hefyd gysylltiadau a'r Tylwyth Teg.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
