Crawley

Oddi ar Wicipedia
Crawley
Mathtref, tref newydd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Crawley
Poblogaeth106,597 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iDorsten, Alytus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd44.96 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHorley Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.1157°N 0.1937°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ269365 Edit this on Wikidata
Map

Tref yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Crawley.[1]

Mae Caerdydd 212.7 km i ffwrdd o Crawley ac mae Llundain yn 45.1 km. Y ddinas agosaf ydy Brighton sy'n 30.2 km i ffwrdd.

Tref Newydd Crawley[golygu | golygu cod]

Roedd Crawley yn un o'r wyth tref newydd wreiddiol o amgylch Llundain, a gynlluniwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda'r nod o gael pobl i symud o'r ddinas orlawn i gefn gwlad. Roedd Llundain wedi dioddef yn ofnadwy yn ystod y blitz ac roedd llawer o'i dinasyddion yn byw mewn amodau is-safonol neu slymiau.

Creodd y Llywodraeth wyth tref hunangynhaliol mewn cylch rhwng 20 a 30 milltir o ganol Llundain. Sef Basildon, Bracknell, Harlow, Hatfield, Hemel Hempstead, Stevenage, Welwyn Garden City a Crawley a ddynodwyd yn dref newydd ar Ionawr 9, 1947. [2]

Cynlluniwyd llawer o dref newydd Crawley gan y pensaer Cymreig Alwyn Sheppard Fidler [3]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Orllewin Sussex. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato