Coup d'état Gini (2021)

Oddi ar Wicipedia
Milwyr yn cynnal parêd trwy strydoedd Conakry ar 6 Medi 2021.
Coup d'état Gini
Delwedd:Scène de liesse à Conakry 01.jpg, Parade militaire après le Coup d'état 2021 en Guinée 1.jpg
Enghraifft o'r canlynolcoup d'état Edit this on Wikidata
Dyddiad5 Medi 2021 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadConakry Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethGini Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dymchwelwyd llywodraeth yr Arlywydd Alpha Condé gan luoedd arfog Gini mewn coup d'état ar 5 Medi 2021. Y bore hwnnw, yn y brifddinas Conakry, cafodd Palas Arlywyddol Sekhoutoureah ei amgylchynu gan fiwtiniwyr. Wedi brwydr saethu rhwng y gwrthryfelwyr a'r lluoedd a oedd yn ffyddlon i'r arlywydd, cafodd Condé ei arestio. Datganodd y swyddog lluoedd arbennig Mamady Doumbouya bod y llywodraeth wedi ei ddymchwel, y cyfansoddiad wedi ei ddirymu, a ffiniau'r wlad wedi eu cau. Condemniwyd y coup gan nifer o lywodraethau eraill a sefydliadau rhyngwladol, ond bu nifer o bobl Gini yn croesawu'r newid grym.

Etholwyd Condé yn Arlywydd Gini yn 2010, a chafodd ei ail-ethol yn 2015 ac yn 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd economi'r wlad o ganlyniad i echdynnu adnoddau naturiol, yn bennaf cloddio bocsit, ond ni chafodd hyn fawr o effaith ar sefyllfa ariannol trwch y boblogaeth. Yn 2019–21, yn sgil ymgais lwyddiannus Condé i newid y cyfansoddiad er mwyn ei alluogi i ymgyrchu am drydydd dymor yn y swydd, ysgogwyd protestiadau a therfysgoedd ar draws Gini, ac ymateb llawdrwm gan yr heddlu a'r llywodraeth, a bu farw rhwng 50 a 100 o bobl. Cafodd gwleidyddion o bleidiau eraill eu harestio, a bu farw rhai ohonynt yn y ddalfa. Cynyddodd prisiau bwyd a nwyddau eraill, ac yn Awst 2021 cyhoeddodd llywodraeth Condé y byddai'n codi trethi, cwtogi ar gyllido'r heddlu a'r lluoedd arfog, a rhoi mwy o arian i swyddfa'r Arlywydd ac i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn sgil y coup, cynyddodd prisiau bocsit i'w lefel uchaf ers deng mlynedd. Ceisiodd Doumbouya dawelu'r diwydiant bocsit drwy gadw'r ffin ar y môr yn agored i alluogi allforion bocsit, ac i ryddhau'r sector cloddio rhag y cyrffyw a orfodwyd yn y nos.[1]

Ar Hydref 1, 2021, cymryodd Mamady Doumbouya ei lw fel llywydd dros dro.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Guinean soldiers seize control of West African nation in military coup", The Daily Telegraph (6 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Medi 2021.