Cosb gorfforol
Cosb am droseddu yw cosb gorfforol a weinyddir gan lys barn, gan riant neu ysgol er mwyn newid agwedd y troseddwr neu er mwyn ceisio ei atal rhag ail droseddu.
Ysgolion
[golygu | golygu cod]Yn 1991, yng ngwledydd Prydain, cafodd taro neu chwipio disgybl ei wahardd mewn ysgolion oedd yn cael arian gan y Llywodraeth, ac mewn ysgolion preifat ers 1999.
Mewn holiadur o 6,162 o athrawon gan y Times Educational Supplement, canfuwyd fod un allan o bob pump athro a 22% o athrawon uwchradd yn credu y dylai'r wialen fedw gael ei hail gyflwyno.[1][2] Mae rhai taleithiau yn yr Unol daleithiau yn dal i gosbi plant yn yr ysgolion.
Y cartref
[golygu | golygu cod]Yn y cartref, Sweden oedd y wlad gyntaf i wahardd unrhyw fath o daro plentyn yn y cartref, a hynny yn 1979. Mae pob gwlad yn America, Asia ac Affrica yn dal i ganiatáu chwipio neu daro plant yn y cartref. Felly hefyd Lloegr ond mae'r Alban wedi'i wahardd.
Llysoedd barn
[golygu | golygu cod]Mae nifer o wledydd yn parhau i gosbi'n gorfforol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A 'fifth of teachers back caning'. BBC News Online. BBC News Online (3 Hydref 2008). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2010.
- ↑ Adi Bloom (10 Hydref 2008). Survey whips up debate on caning. Times Educational Supplement. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2010.