Gwarchodfa Natur Corsydd Rainham

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Corsydd Rainham)
Gwarchodfa Natur Corsydd Rainham
Mathcors, gwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHavering Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.49°N 0.23°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Gwarchodfa natur o 411 hectar yn Essex, Dwyrain Lloegr, Gwarchodfa Natur Corsydd Rainham (Saesneg: Rainham Marshes Nature Reserve). Saif nepell o bentref Purfleet ar lan ogleddol Afon Tafwys. Fe'i reolir gan elusen yr Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB).[1] Mae'n cynnig cynefin a lloches i amrywiaeth eang o anifeiliaid, adar, trychfilod a phlanhigion cynhenid. Mae'r safle'n cynnwys mannau hynafol iawn ac mae'n bosib gweld boncyff coeden o'r Oes Neolithig, 6,000 o flynyddoedd o oed.

Yn llai hynafol, ac yn dyddio'n ôl i 1906, mae yma hefyd olion targedau saethu a adeiladwyd gan yr Adran Ryfel.[2]

Ym mynedfa'r warchodfa mae siop a chaffi modern a phwrpasol sydd, fel y warchodfa ei hun ar agor ar hyd y flwyddyn. Mae un llwybr yn eich tywys ar hyd ymylon y warchodfa a phob hyn a hyn mae gwylfâu'n cynnig mannau i aros a gwylio adar allan ar y corsydd, a mannau eraill sy'n cynnig adnoddau addysgiadol i blant ddysgu am natur a'r bywyd gwyllt lleol.

Mae cyfleusterau cyhoeddus ar gael mewn dwy safle o fewn y warchodfa ac mae'r holl safle'n addas ar gyfer defnydd o gadeiriau olwyn. Yr orsaf dren agosaf i Gorsydd Rainham yw Gorsaf Drenau Purfleet (o orsaf Fenchurch Street, Llundain, 49 munud), ac mae 20 munud o waith cerdded o'r orsaf i gyrraedd y warchodfa.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rainham Marshes" (yn Saesneg). RSPB. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2021.
  2. The Illustrated London News (yn Saesneg). Illustrated London News & Sketch Limited. 1999. t. 41.