Corn-carw'r môr

Oddi ar Wicipedia
Crithmum maritimum
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Crithmum
Enw deuenwol
Crithmum maritimum
Carolus Linnaeus

Planhigyn blodeuol ydy Corn-carw'r môr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Crithmum maritimum a'r enw Saesneg yw Rock samphire. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Corn Carw'r Môr, Corn Carw, Dail St. Pedr, Ffenigl y Môr a Sampier[1]. Mae'n cael ei gynaeafu er mwyn y bwrdd bwyd, ac mae gan y dail tewion flas sbeisi, hyfryd.

Sonia Shakespeare am yr arferiad peryglus yn y 17g o gasglu'r planhigyn o wyneb creigiau: "Half-way down, Hangs one that gathers samphire; dreadful trade!"[2]

Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal.

Defnydd[golygu | golygu cod]

Wrth lythyru a'i gilydd cofnododd frodyr Morrisiaid Môn y defnydd a wnaethant o gorn carw'r môr:

Caergybi 13 Medi 1750 ..... “Wfft i'r arian a dalasoch am helcyd [hel, casglu] y corn carw môr yna ! A villainous place indeed! Gadewch iddo, cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd. If the liquor about the sampier turns moldy, you must boil strong pickle, viz., salt and water, and add when it's a little cold the same quantity of white wine vinegar, so cover the plant with the liquor ; we eat 'em sometimes chopt small and mixt with melted butter with mutton, which is seldom eaten here without 'em. Sometimes brought to the table upon a saucer and chopt by the eater as you do capers or other pickles; if you design to keep 'em long you should pour some melted suet upon 'em to keep off the air”.[3]

Soniodd Bingley am bobl Llandudno yn ei gynaeafu:

On these rocks [Pen y Gogarth, Llandudno] which extend entirely along the end of the cape, the samphire 'Crithmum maritimum' is found in considerable quantity. It is collected by the inhabitants of the adjacent parishes both for home use and for sale[4]

Tarddiad yr Enwau[golygu | golygu cod]

  • corn carw'r môr

Enw yn seiliedig ar ei ffurf canghennog megis osgl carw

  • Crithmum maritimum

Yr enw gwyddonol

  • Rock Samphire

Enwir sawl planhigyn môr yn ffurf ar samphire (sampier yn Gymraeg). (Herbe de) Saint Pierre yw tarddiad yr enw.

  • Corn Carw

Enwir math o gnwpfwsogl yn yr un modd.

  • Dail St. Pedr

Trosiad Cymraeg o'r Ffrangeg Saint Pierre

  • Sampier

Cymreigiad o Saint Pierre

  • Ffenigl y Môr

Mae'r ffenigl Ffenigl Foeniculum vulgare a'r corn carw fel ei gilydd yn perthyn i deulu'r moron (Umbelliferae)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Planhigion Blodeuol; Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003
  2. Shakespeare, William (1623). The Tragedy of King Lear. London. Act IV, golygfa VI, llin. 14b-15
  3. Llythyr oddi wrth William Morris at ei frawd Richard Morris
  4. Y Parch. E. Bingley 1814
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: