Cormyr

Oddi ar Wicipedia

Teyrnas ym myd dychmygol Y Teyrnasoedd Angof (The Forgotten Realms) yw Cormyr, sy'n ymddangos yn y gêm chwarae-rôl Daeardai a Dreigiau.

Mae Cormyr yn ymdebygu i Ewrop yn y Canol Oesoedd, gyda brenin (y Brenin Foril), llu o farchogion (Y Dreigiau Porffor) a dewiniaid (Y Dewiniaid Rhyfel).

Suzail yw prifddinas y deyrnas, ac mae Arabel a Marsember yn ddinasoedd mawrion eraill. Mae'r ddinas Tilverton wedi cael ei dinistio. Mae yna ddwy goedwig fawr yn y deyrnas, Coedwig y Brenin a Choedwig Hullack.