Coedwig law Geltaidd
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Coedwig wlyb a geir yn Iwerddon, Gorllewin yr Alban, a Gorllewin Cymru yw coedwig law Geltaidd. Nodir am y dderwen mes di-goes (Quercus petraea), y fedwen lwyd (Betula pubescens), a'r gollen (Corylus avellana). Tyfir nifer o rywogaethau o fwsogl, cen, a llysiau'r afu o ganlyniad i'r hinsawdd lawiog a niwlog, y lleithder uchel a'r tymheredd cymedrol. Mae nifer sylweddol o blanhigion ardyfiannol sydd yn tyfu ar goed heb iddynt fod yn barasitig.