Coeden y Flwyddyn (Deyrnas Unedig)
Cynhelir cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn yn y Deyrnas Unedig bob hydref gan Coed Cadw, elusen cadwraeth. Bob blwyddyn dewisir rhestr fer o o goed enwebedig gan banel o arbennigwyr sy'n mynd ymlaen i bleidlais gyhoeddus ar gyfer pob un o wledydd Prydain. Mae'r panel wedyn yn dewis un o'r rheiny i fod yn Goeden y Flwyddyn a bydd yn cael ei enwebu ar gyfer cystadlaeuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn y flwyddyn ganlynol. Cynhelir y gystadleuaeth yn flynyddol ers 2014.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn wedi ei gynnal ers 2011 a mae'n dewis coeden o bob gwlad sy'n cymryd rhan (13 erbyn hyn) drwy bleidlais gyhoeddus. Fe'i ysbrydolwyd gan gystadleuaeth genedlaethol a gynhaliwyd yn y Weriniaeth Tsiec. Mae rhan fwyaf o wledydd yn cynnal pleidlais genedlaethol i ddewis ei cynnig bob blwyddyn.[1] Enwebir y coed yn y flwyddyn cyn gwobrwyo'r enillydd. Ni gystadlodd y Deyrnas Unedig hyd 2013 pan enwebwyd Derwen Niel Gow o'r Alban a Derwen Adwy'r Meirwon o Gymru ar gyfer gwobr 2014. Daeth y coed yma yn seithfed a nawfed allan o'r 10 cynnig y flwyddyn honno.[2] Y flwyddyn ganlynol cymerodd Coed Cadw, yr elusen gadwraeth, gyfrifoldeb am enwebu cynigion Prydeinig i'r gystadleuaeth. Cychwynnodd gystadleuaethau cenedlaethol yn Lloegr, Cymru a'r Alba.[3] Enwebwyd enillwyr y cystadleuaethau yma i wobrau Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn ar gyfer 2015.[4] yn 2015, ehangwyd y gwobrau Prydeinig i gynnwys Gogledd Iwerddon. Amrywiodd Coed Cadw y fformat yn 2016 gan gynnwys rownd ychwanegol i ddewis un coeden ar gyfer gwledydd Prydain i gyd. Cafodd pob enillydd cenedlaethol eu henwebu i'r gystadleuaeth Ewropeaidd n. O 2017 ymlaen, dim ond un enillydd o wledydd Prydain bydd yn cael ei enwebu i'r gwobrau Ewropeaidd.[5]
Fformat
[golygu | golygu cod]Cynhelir y pedwar cystadleuaeth genedlaethol ym mis Medi a Hydref a dewisir yr enillydd drwy bleidlais gyhoeddus ar wefan Coed Cadw. Gellir enwebu coeden gan unrhyw unigolyn neu gorff erbyn mis Awst a dewisir rhestr fer gan banel o arbennigwyr annibynnol i fynd ymlaen i bleidlais gyhoeddus. Mae pob enillydd cenedlaethol yn derbyn grant o £1,000 gan Loteri Côd-post y Bobl i'w ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas yn ymwneud a'r goeden - gallai hyn amrywio o archwiliad i brofion cyflwyr, gwaith adfer, plac, arwyddion neu ddathliad.[3] Mae rhai o'r enwebiadau hefyd yn derbyn grantiau o £500.[6][7] Yn dilyn y bleidlais gyhoeddus dewisir un o'r pedwar coeden gan banel o arbennigwyr i ddod yn Goeden y Flwyddyn, Gwledydd Prydain a fe'i enwebir fel cystadleuydd Prydeinig ar gyfer y gwobrau Ewropeaidd, lle mae pleidleisio yn cymryd lle drwy Ionawr a Chwefror y flwyddyn ganlynol.[7][8] Yn 2018 newidiwyd y fformat fel fod y dewis Prydeinig yn cael ei ddewis gan bleidlais gyhoeddus mewn cyd-weithrediad a rhaglen The One Show y BBC gyda'r enillydd i'w gyhoeddi ym mis Hydref.[7]
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Coeden y Flwyddyn, Gwledydd Prydain
[golygu | golygu cod]Coeden y Flwyddyn, Lloegr
[golygu | golygu cod]- 2018 Coeden Nelli[7]
- 2017 Derw Gilwell[9]
- 2016 Sycamorwydden y Bwlch[6]
- 2015 Coeden Gellyg Cubbington[10]
- 2014 Prif Dderwen[11]
Coeden y Flwyddyn, Yr Alban
[golygu | golygu cod]- 2018 Coeden Netty[7]
- 2017 Coeden Fawr, Kirkwall[9]
- 2016 Coeden Ding Dong[6]
- 2015 Derwen y Swffragét[12]
- 2014 Coeden y Wraig[13]
- 2013 Cyn y gystadleuaeth ond enwebwyd Derw Niel Gow ar gyfer Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2014[2]
Coeden y Flwyddyn, Cymru
[golygu | golygu cod]- 2018 Derwen Pwllpriddog[7]
- 2017 Ceubren, Castell-Nedd[9]
- 2016 Derwen Brimmon[6]
- 2015 Derwen Llanarthne[14]
- 2014 Y Goeden Unig[15]
- 2013 Cyn y gystadleuaeth ond enwebwyd Derwen Adwy'r Meirwon ar gyfer Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn 2014[2]
Coeden y Flwyddyn, Gogledd Iwerddon
[golygu | golygu cod]- 2018 Secwoia Mawr Aml-foncyff, Castlewellan[7]
- 2017 Coeden Tŷ Erskine[9]
- 2016 Derwen Holm, Parc Rostrevor]][6]
- 2015 Coeden Heddwch Parc Woodvale[16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "About the contest". European Tree of the Year. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "European Tree of the Year 2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ 3.0 3.1 Stephenson, Natalie (19 June 2018). "Help us find the nation's Tree of the Year 2018". Woodland Trust. Cyrchwyd 30 Medi 2018.[dolen farw]
- ↑ "European Tree of the Year 2015". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ "Who are the winners?". European Tree of the Year. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-06. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 Hickman, Chris (18 Rhagfyr 2016). "Our Tree of the Year winners are revealed on Channel 4". Woodland Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-07. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 "Tree of Year 2018". Woodland Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-01. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ "European Tree of the Year 2018 - Where is it rooted? - EUROPARC Federation". EUROPARC Federation. 14 Chwefror 2018. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 "Britain's Tree of the Year for 2017 unveiled". Countryfile (yn Saesneg). 5 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 30 Medi 2018.[dolen farw]
- ↑ "England's Tree of the Year, Cubbington pear, to be cut down for HS2". The Telegraph. 9 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ Barkham, Patrick (14 Tachwedd 2014). "Major oak in Sherwood Forest voted England's tree of the year". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ Gillett, Karrie (28 Hydref 2015). "Century-old Glasgow oak tree hailed as Scottish 'tree of the year'". Scotland Now (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-07. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ "Scottish Tree of the Year crowned". BBC News. 30 Hydref 2014. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ "Saved oak wins Tree of the Year award". BBC News. 9 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ "Fallen pine is Wales' tree of year". BBC News. 23 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 30 Medi 2018.
- ↑ Smith, Ryan (9 Tachwedd 2015). "Game of Thrones loses out as this North Belfast tree is named Northern Ireland 'Tree of the Year'". Belfast Live. Cyrchwyd 30 Medi 2018.