Clwb Valdai

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Logo Clwb Valdai

Fforwm drafod wleidyddol yw Clwb Valdai (Rwseg: Клуб Валдай) sy'n cynnig fframwaith i arbenigwyr o Rwsia ac o sawl gwlad o gwmpas y byd gwrdd a thrafod Rwsia a'i rhan yn y byd a gwleidyddiaeth ryngwladol yn gyffredinol. Fe'i sefydlwyd yn 2004 gan yr asiantaeth newyddion Rwsiaidd RIA Novosti, y Cyngor ar Bolisi Tramor ac Amddiffyn, y papur newydd Saesneg Rwsiaidd The Moscow Times a'r cylchgrawn Russia Profile. Enwir y clwb ar ôl y Gwesty Valdai ar lan Llyn Valdayskoye yn ardal Bryniau Valdai lle cynhalwyd y cyfarfod cyntaf ar yr 2ail o Fedi 2004.

Dolennni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.