Clifford, Swydd Henffordd
Gwedd
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
| Poblogaeth | 557, 530, 511 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.1047°N 3.1025°W |
| Cod SYG | E04000727 |
| Cod OS | SO243457 |
| Cod post | HR3 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Clifford.[1] Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir o fewn hanner milltir o'r ffin rhwng Cymru (Powys) a Lloegr, tua 2 filltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain o'r Gelli Gandryll, Powys.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 556.[2]
Gorwedd y pentref ar lan ddeheuol Afon Gwy. Mae'n lleoliad strategol a dyna pam y codwyd Castell Clifford ger y safle gan y Normaniaid. I'r de cyfyd bryn Cefn (Cefn Hill), a ddynodai terfyn ogleddol arglwyddiaeth Gymreig Ewias.

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 1 Chwefror 2025
- ↑ City Population; adalwyd 1 Chwefror 2025
