Cimera CBC

Oddi ar Wicipedia

Cwmni syrcas a chelfyddyd cyfoes â'i lleoliad yng Ngwynedd yw Cimera CBC (Cwmni Buddiant Cymunedol). Fe'i sefydlwyd yn 2013. Mae'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

Mae'n cynhyrchu gweithiau gwreiddiol amrywiol megis theatr stryd, cymeriadau stiltiau ar gerdded, teithiau cynyrchiadau syrcas, sioeau tân, ymgysylltu drwy’r celfyddydau a phrosiectau addysgol, gorymdeithiau cymunedol, gwyliau golau, sioeau pyped, a hyfforddiant syrcas a chelfyddydau rhyng-ddisgyblaethol ar gyfer plant ac oedolion.

Mae wedi creu, dylunio a chynhyrchu gwaith ar gyfer llawer o wyliau, lleoliadau a chwmnïau, ac mae ganddo rwydwaith cysylltiadau, partneriaid ac artistiaid yn ymestyn ar hyd arfordir Gogledd-ddwyrain Cymru hyd at Gaer, trwy Wynedd, ac o Fôn lawr at Geredigion a thu hwnt.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan swyddogol