Neidio i'r cynnwys

Cigfran (drama deledu)

Oddi ar Wicipedia


Cigfran
Enghraifft o'r canlynoldrama deledu
Dyddiad cynharaf1977
Cwmni cynhyrchuBBC Cymru

Drama deledu Gymraeg a ddarlledwyd ar BBC Cymru ym 1977 yw Cigfran.

Ceir adolygiad o'r ddrama yn Barn [Ebrill 1977] gan Bob Roberts.[1]

"Gellir dweud yr un peth [roedd y cyfarwyddo yn sicr a deallus], am Cigfran y ddrama fuddugol a deledwyd gan y BBC yn ddiweddarach yn y mis [Ebrill 1977]. Er i'r actorion yma eto weithio'n galed i geisio creu arswyd a thensiwn yn ôl gofynion y stori, nid oedd y ddrama'n gweithio fel darn o theatr. Yn sicr, roedd elfennau arswyd a thrasiedi yma, efallai yn or-amlwg, ond nid oeddynt yn cario'r ddrama yn ddi-dor i'w diweddglo. Mae rhyw egni arswydus ymhob trasiedi dda, egni sy'n gwneud i ni'r gwylwyr ymdeimlo â diymadferthwch y cymeriadau yn wyneb sicrwydd eu tranc. Arswyd artiffisial a thensiwn gwneud a gafwyd yn Cigfran. Ni chyffyrddodd â'r trobwll hwnnw sy'n is-ymwybod pob un ohonom ac a gynhyrfir pan ddown wyneb yn wyneb a'r goruwchnaturiol. Rhaid canmol y cynhyrchiad, serch hynny. Fe gafwyd setiau grymus, ffilmio effeithiol a chyfarwyddo trylwyr. Mae hynny'n sicr o fod yn ysbrydiaeth i'r awdur fwrw arni."[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Roberts, Bob (Ebrill 1977). "Nodiadau Teledu". Barn.