Ci Smwt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Ci Smwt

Ci arffed sy'n tarddu o Tsieina yw'r Ci Smwt,[1] y Pwg,[1][2] y Corgi Tarw[1] neu'r Apgi.[3] Mae'n gi ffyddlon a bywiog, ac yn anifail anwes poblogaidd.[4]

Cafodd y brîd ei gyflwyno i Loegr tua diwedd yr 17g gan fasnachwyr Iseldiraidd. Mae ganddo drwyn byr a chynffon gyrliog. Mae'n gi gyhyrog gyda phen mawr, llygaid mawr tywyll, a chlustiau bychain, llipa. Mae ganddo daldra o 25.5 i 28 cm (10 i 11 modfedd) ac yn pwyso 6 i 8 kg (14 i 18 o bwysau). Mae ganddo gôt byr a gloyw sydd yn ddu, yn felynllwyd ac arian neu'n felynllwyd a lliw bricyll gyda llinell ddu ar y cefn ac yn ddu ar y trwyn a'r geg.[4]

Gelwir grŵp o bygiau yn "grumble".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Geiriadur yr Academi, [pug].
  2.  pwg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  3.  apgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) pug. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: