Ci Cadno Seisnig
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Gwlad | Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci hela sy'n tarddu o Loegr yw'r Ci Cadno Seisnig. Brîd prin ydyw a gafodd ei gynhyrchu dros ganrifoedd i hela cadnoaid. Mae'n sefyll 53 i 64 cm ac yn pwyso 27 i 32 kg. Mae ganddo gôt o flew byr, o liw du, melynddu, a gwyn. Mae'n perthyn i'r Ci Cadno Americanaidd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Foxhound. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Mawrth 2018.