Chwarel y Glog

Oddi ar Wicipedia

Chwarel yng ngogledd Sir Benfro, rhwng Llanfyrnach a Chrymych oedd Chwarel y Glog. Roedd yn cynhyrchu llechi, lloriau cerrig, cerrig beddau ac mae sôn ei bod hyd yn oed yn cynhyrchu coffinau cerrig.

Un o'r perchnogion cyntaf oedd John Owen, fferm y Glog. Mab iddo, y John Owen oedd yn gyfrifol am ddod â'r rheilffordd i'r ardal, rheilffordd a adwaenwyd fel y Cardi Bach. Mae cofgolofn iddo ym mynwent Capel Llwyn-yr-hwrdd, sydd i'r dwyrain o'r chwarel.

Yn ugeiniau'r 20g daeth E Lloyd Humphreys yn reolwr ar y chwarel. Roedd wedi bod yn reolwr ar Chwarel yr Oakeley yn y gogledd. Bu yn ddylanwadol iawn ar fywyd diwylliannol yr ardal. Ef fu yn gyfrfol am ddechrau Cymdeithas Ddiwylliannol Llwyn-yr-hwrdd.