Chwarel y Bryn
Gwedd
Math | chwarel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.203555°N 4.050346°W |
Cod OS | SH631693 |
Chwarel lechi gerllaw Llanllechid, Gwynedd oedd Chwarel y Bryn, hefyd Chwarel Bryn Hafod y Wern neu Chwarel Bryn Hall. Saif ychydig i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanllechid (Cyf. OS SH631693).
Agorwyd y chwarel tua 1780 gan deulu Pennant, ac yn 1845 daeth yn eiddo i'r Royal Bangor Slate Co.. Caewyd hi yn 1884 pan dorrodd teulu Pennat yn cyflenwad dŵr iddi. Erbyn heddiw mae twll y chwarel, 200 troedfedd o ddyfnder, wedi llenwi â dŵr i ddyfnder o tua 100 troedfedd.