Chwarel Trwyn y Fuwch

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Trwyn y Fuwch
Y gweithwyr yn y flwyddyn 1900. Sylwch ar yr injan hefyd.

Chwarel galchfaen ger Llandudno oedd Chwarel Trwyn y Fuwch neu Chwarel y Gogarth Fach.

Sefydlu'r Chwarel[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y chwarel gan Edward Fidler a ffurfiodd Gwmni Little Orme’s Headland Limestone ar 25 Mawrth 1889 pan sicrhaodd les gan Arglwydd Mostyn am gyfnod o 30 mlynedd am dâl o £150 y flwyddyn yn ogystal ag un geiniog am bob tunnell o gerrig a gloddwyd ohono. Ar 1 Gorffennaf 1889 cymerwyd y les drosodd gan Joseph Storey a’i fab, Robert, o Bacup, Sir Gaerhirfryn. Roedd gan y teulu yma chwarel arall yn Millers Dale, Buxton. Yn ystod y cyfnod buont yn byw yn Shimdda Hir, ar lethrau’r Gogarth Fach, sydd erbyn hyn wedi ei droi’n fwyty a gwesty o'r enw Craigside Inn.

Llong wrthi'n llwyth wrth yr "hoppers" tua 1910. Byddai'r calchfaen yn cael ei gario'n syth i'r Alban at yr Afon Clyde.

Un o'r chwareli mwyaf o'i bath[golygu | golygu cod]

Ar droad yr 20g roedd y chwarel yn un o’r rhai mwyaf o’i bath yn yr ardal ac yn 1896 cyflogai hanner cant o ddynion yn ogystal â 29 oedd ar 'waith allanol'. Erbyn 1905 dyn o’r enw Nathan Smallpage o Craigmoor, Ffordd Bryn y Bia oedd cadeirydd y fenter a chafwyd les newydd o 30 mlynedd gan ehangu’r tir oedd ar gyfer cloddio. Ond, ’roedd pris uwch i’w dalu— £300 y flwyddyn a cheiniog a dimai y dunnell am bob tunnell a gloddiwyd dros 24,000. Un o’r amodau oedd bod yn rhaid i’r cerrig a gloddiwyd gael eu cludo o’r chwarel mewn llongau. Un arall, nid oedd ochr y Gogarth Fach (sy'n wynebu Llandudno) i’w gloddio ac nad oedd yr un odyn galch i’w chodi y gallai ei mwg amharu ar dref Llandudno!

Map yn dangos ffurf y chwarel

Erbyn hyn ‘roedd y cerrig a gloddiwyd wedi gostwng o 90,000 o dunelli i 45,000 y flwyddyn. Ond, ‘roedd galw aruthrol am gerrig i wneud sment a gwnaed cytundeb gyda ’Stanlow Cement Co’. Yn 1911, enw’r cwmni oedd ’Ship Canal Portland Cement’, ac yn ôl adroddiadau ‘roedd peiriant malu cerrig arbennig ar y safle, ac ’roedd yn bosib’ i stemars 1,000 o dunelli lwytho ar y lanfa o fewn awr. Pwynt pwysig arall oedd fod y garreg yn rhyfeddol o bur ac yn addas iawn ar gyfer cynhyrchu sment Portland. Rhwng 1911 a 1922 ’roedd y cwmni’n gyfrifol am Chwarel Garth yn Llangwstennin ble ‘roeddynt yn cloddio am siâl.

Moderneiddio[golygu | golygu cod]

Y chwarel wedi'r moderneiddio yn 1927.

Bu gwaith moderneiddio sylweddol ar y safle rhwng 1926 a 1927 gyda pheiriant newydd i falu’r cerrig, 4 "hopper" i storio’r cerrig, cwt yr injan, cwt boiler a chwt glo. Adeiladwyd gweithdy ar gyfer yr injans stêm, efail y gof, a siediau ar gyfer storio’r injans.

Dyma weddillion yr "hoppers" a ddefnyddid i lwytho’r cerrig ar y llongau cyn iddynt gael eu dymchwel ym 1987, er diogelwch.

Y Diwedd[golygu | golygu cod]

Er yr holl welliannau -a chytundeb newydd gyda Stad Mostyn o rent £500 y flwyddyn, daeth y cyfan i ben yn Rhagfyr 1931.

Aeth rhai o’r dynion i weithio i Chwarel Nant y Gamar. Bellach, ‘does fawr ddim ar ôl ond gweddillion yr hen olwyn weindio a welir isod.

Yr hyn sydd ar ôl o'r chwarel heddiw[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ym mhapur bro Y Pentan gan Gareth Pritchard.