Chris Stuart

Oddi ar Wicipedia
Chris Stuart
Ganwyd19 Chwefror 1949 Edit this on Wikidata
Durham Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, troellwr recordiau ar y radio, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata

Roedd Christopher Elliot Stuart (Chwefror 194913 Gorffennaf 2022) yn newyddiadurwr, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd a chynhyrchydd radio a theledu.

Roedd yn adnabyddus fel un o gyflwynwyr cyntaf BBC Radio Wales.[1] Roedd e'n gynhyrchydd gweithredol cyfres gwis BBC Two Only Connect. Fel cyflwynydd bu’n arwain y rhaglen frecwast cynnar ar BBC Radio 2 rhwng 1988 a 1991.[2]

Cafodd Stuart ei eni yn Ninas Durham Cafodd ei fagu yn Swydd Nottingham a Swydd Gaerlŷr. Darllenodd wleidyddiaeth, athroniaeth ac economeg yn New College, Rhydychen, ac wedi graddio symudodd i Gymru lle y dechreuodd weithio fel newyddiadurwr i'r Western Mail. Roedd yn aelod o'r band comedi "Baby Grand", a gafod dwy gyfres deledu ar BBC Two a rhyddhaodd albwm ar label Decca. Gyda'i wraig Megan, sefydlodd y cwmni cynhyrchu Presentable.[3] Bu farw Stuart yn 73 oed.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Chris Stuart: Ex-BBC Radio Wales presenter dies aged 73". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2022.
  2. McCarthy, James. "Tributes pour in for Radio 2 star Sir Terry Wogan". Wales Online (yn Saesneg).
  3. Williamson, David. "Presentable dealt a golden hand with big money sale". Wales Online (yn Saesneg).
  4. Amy Denman; Aaron Morris (13 Gorffennaf 2022). "Durham-born BBC Radio 2 DJ Chris Stuart dies aged 73 - leading to tributes from colleagues". Chronicle Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2022.