Chetwode
![]() | |
Math | pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Buckingham (awdurdod unedol) |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Buckingham (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.96°N 1.066°W ![]() |
Cod SYG | E04001470 ![]() |
Cod OS | SP6429 ![]() |
Cod post | MK18 ![]() |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Chetwode. Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Buckingham. Fe'i lleolir 6 km (4 milltir) i'r gorllewin i Buckingham.
Mae'r elfen chet- yn yr enw yn dod o'r enw Brythoneg ar y pentref, sy'n gytras â Chymraeg Diweddar coed. Ychwanegwyd yr elfen wood o Hen Saesneg yn cyfleu'r un ystyr â'r enw gwreiddiol.[1] Mae'r enw cyfansawdd yn ymddangos yn Hen Saesneg fel Cetwuda. Erbyn Goresgyniad Normanaidd Lloegr, roedd manordy yn Chetwode, yn nwylo Esgob Odo o Bayeux a Robert de Thain oddi tano yn 1086 yn ôl y Domesday Book. Sylfaenwyd priordy Awstinaidd yno yn 1244 gan Ralphe de Norwich. Datodwyd y priordy yn 1460 o achos ei dlodi, gan ddod yn rhan o Abaty Nutley yn Long Crendon gerllaw.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Ifor Williams, Enwau lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945), t. 6