Chaparral

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nitmiluk National Park, Northern Territory, Australia.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolvegetation zone Edit this on Wikidata
Mathtanwydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

(Gweler hefyd : Maquis)

Chaparral (Mynyddoedd Santa Ynez, Califfornia).

Fforest o dderw fythwyrdd a phrysgwydd yw Chaparral (o'r Sbaeneg chaparra : prinwydden).

Fe fydd Chaparral yn dirlun cyffredin mewn ardaloedd gyda hinsawdd y Canoldir.

Taniad mellten[golygu | golygu cod y dudalen]

Ambell waith fe fydd mellt yn curo'r Chaparral ac yn achosi tân fforest. Mae llawer o ymryson dros y ffenomen hwn. Fe fydd rhai yn dadlau bod y tân yn dinistrio'r fforestydd ac eraill yn dadlau bod tân gwirfoddol yn ddigwyddiad hollol naturiol sy'n achosi ailenedigaeth y fforestydd. Fe fydd y prysgwydd yn llosgu'n llwyr nes bod dim ond boncyffion duon y coed ar ôl, heb ddim canghennau na dail, ond ymhen rhyw ddwy flynedd fe fydd blodau gwyllt ymhob man a blagur yn ymddangos ar y coed unwaith eto. Un peth sy'n sicr; mae pawb yn gytun fod llosg ddifrifol (arson) neu taniad drwy esgeulustod (tân gwersyll / sigaret) ddim yn naturiol. Fe fydd hwn yn achos llawer o ddistryw a marwolaeth bob blwyddyn.

Llosgiad dan rheolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y Frigâd Dân yn arfer ymlâdd i diffodd y tân bob tro, ond y mwy oeddynt yn ei ddiffodd, y mwy oedd y prysgwydd yn tyfu, y mwy aml oedd y tânau, a mwy oedd y tanllwythi. Fe fydd tanllwythi mawr yn dinistrio'r coed wrth losgu'r boncyffion a'r gwreiddiau. Fe fydd tanllwythi mawr yn dinistrio eiddo ac yn achosi marwolaeth hefyd. Roedd rhaid cydsynio gyda natur a chael polisi o losgiad dan rheolaeth. Mae perchnogion tai ger y fforest yn gyfrifol am glirio'r prysgwydd, torri'r gwair a thocio'r coed o amgylch y tŷ hefyd.