Château de Commarque
Gwedd
Math | castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Les Eyzies |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 44.9417°N 1.1019°E |
Statws treftadaeth | monument historique classé |
Manylion | |
Castell yng nghymuned Les Eyzies, Dordogne, Ffrainc, yw Château de Commarque. Fe'i hadeiladwyd ar fan creigiog ar waelod dyffryn Beune, rhwng Sarlat a Les Eyzies. Mae'n wynebu castell Laussel, a leolir ar lan arall afon Beune, ac a feddiannwyd yn yr Oesoedd Canol gan y Saeson.
Ceir mynediad i'r castell ar hyd llwybr carreg, yna ar hyd llwybr o tua 600 m drwy'r coed. Mae'r mynediad hwn mor anodd ei gyrchu fel ei fod yn cael yr enw Forteresse oubliée ("Caer anghofiedig").[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Château de Commarque", Ministère de la Culture; adalwyd 27 Ionawr 2022