Cecil Wilfrid Luscombe Bevan
Cecil Wilfrid Luscombe Bevan | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ebrill 1920 ![]() |
Bu farw | 19 Ebrill 1989 ![]() |
Galwedigaeth | academydd, cemegydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Fferyllydd ac academydd o Gymru oedd Cecil Wilfrid Luscombe "Bill" Bevan, CBE (2 Ebrill 1920 – 19 Ebrill 1989). Bu'n Brifathro Coleg y Brifysgol, Caerdydd o 1966 hyd 1987. Bu hefyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru am ddau dymor: 1973 i 1975 a 1981 i 1983.[1]
Gyrfa academaidd
[golygu | golygu cod]Bu Bevan yn gweithio ym Mhrifysgol Caerwysg rhwng 1949 a 1953, cyn symud i Brifysgol Ibadan yn Nigeria. Bu'n bennaeth ei Hadran Cemeg o 1953 a 1966, a'i Is-bennaeth a'i Ddirprwy Is-Ganghellor o 1960 hyd 1964.[1]
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ym 1965, penodwyd Bevan yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE). Fe'i gwnaed yn swyddog o'r Ordre des Palmes Académiques gan lywodraeth Ffrainc yn 1986.[1]
Ym 1969, gwnaed Bevan yn Gymrawd o Goleg Prifysgol Llundain (UCL);[1] mae hwn yn benodiad anrhydeddus sy'n cydnabod "rhagoriaeth yn y celfyddydau, llenyddiaeth, gwyddoniaeth, busnes neu fywyd cyhoeddus".[2] Dyfarnwyd gradd Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc) er anrhydedd iddo ym 1973 gan Brifysgol Ibadan.[1] Yn 1982, fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd o Goleg y Brifysgol, Caerdydd.[1]
Gweithiau dethol
[golygu | golygu cod]- Cecil Wilfred Luscombe Bevan (1965). Intermediate Practical Chemistry. Nelson.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 'BEVAN, Cecil Wilfrid Luscombe', Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014; online edn, April 2014 accessed 31 Aug 2017
- ↑ "Honorary Fellows of UCL". Student and Registry Services. University College London. Cyrchwyd 31 August 2017.