Neidio i'r cynnwys

Constantine P. Cavafy

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cavafy)
Constantine P. Cavafy
Ganwyd29 Ebrill 1863 Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 1933 Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Man preswylAlexandria Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Otomanaidd, Yr Aifft, Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor, gwas sifil, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Cavafy Publications 1891-1934 Edit this on Wikidata
TadPetros Ioannēs Edit this on Wikidata
MamXaríkleia Fotiádi Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd, newyddiadurwr, a gwas sifil o Wlad Groeg oedd Konstantinos Petrou Kavafis (Groeg: Κωνσταντίνος Πέτρου Καβάφης [ka'vafis]; 29 Ebrill 186329 Ebrill 1933), sy'n fwy adnabyddus yn y byd Saesneg fel Constantine P. Cavafy. Fe'i ganwyd yn Alexandria, yr Aifft, a bu'n byw yn y wlad honno am y rhan fwyaf o'i oes. Yn ôl rhai, Kavafis oedd bardd Groeg pwysicaf yr 20g.

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]

Mae barddoniaeth Cafaffy wedi cael ei chyfieithu droeon mewn llawer o iaith. Mae gan ei farddoniaeth unigryw sawl thema: ansicrwydd am y dyfodol, pleserau synhwyraidd, (homo)erotigiaeth, hedoniaeth, nihiliaeth, hunaniaeth, cof, a Helleniaeth (beth mae'n ei olygu i fod yn "Groeg"). Disgrifir Cafaffy gan ei ffrind E.M. Forster, awdur a beirniad llenyddol Saesneg, fel “Gŵr bonheddig Groegaidd mewn het wellt, yn sefyll yn hollol ddisymud ar ongl fach i’r bydysawd.” Roedd Cafaffy yn aml yn cael ei ysbrydoli gan brofiad personol, a ddangosir yn aml trwy lens cyfnodau hanesyddol amrywiol, yn enwedig y cyfnod Hellenistaidd. Mae barddoniaeth Cafaffy yn gwneud llawer o ddefnydd o eironi a ffurfiau cyferbyniol gwahanol ar yr iaith a hanes Roeg, yn aml er mwyn mynegi ei awydd homoerotig mewn cyfnod pan waharddwyd cyfunrywioldeb. Mae ei waith, fel y dywedodd un cyfieithydd, "yn dal yr hanesyddol a'r erotig mewn un cofleidiad."  Disgrifiodd y bardd ei hun ei farddoniaeth fel un oedd yn cynnwys 3 thema: hanesyddol, athronyddol a synhwyraidd.

Cafodd Cafaffy ei eni ym 1863 yn Alecsandria (rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd ar y pryd) i deulu masnachwyr llewyrchus. Wedi marw ei dad ym 1870, Mae Cafaffy ac ei deulu wedi symud i Lundain, lle dysgodd y bardd Saesneg. Ym 1877, oherwydd problemau ariannol, symudodd y teulu yn ôl i Alecsandria. Arweiniodd bomio Alecsandria ym 1882 i'r teulu symud i mewn gyda theulu estynedig yn Caergystennin. Yn ystod y cyfnod hwn yn Caergystennin y cafodd Cafaffy lawer o'i brofiadau homoerotig cyntaf a dechreuodd ymddiddori yn y syniad o hunaniaeth Hellenig. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd farddoni. Ym 1885, dychwelodd Cavafy i Alecsandria lle byddai'n byw gweddill ei oes hyd ei farwolaeth ar 29 Ebrill, 1933, union 70 mlynedd ar ôl ei eni.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]