Castell Lincoln
Gwedd
Math | amgueddfa tŷ hanesyddol, castell mwnt a beili, safle archaeolegol, castell |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Lincoln, Dinas Lincoln |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.2349°N 0.5409°W |
Cod OS | SK9756571832 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Romanésg |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Sefydlwydwyd gan | Wiliam I, brenin Lloegr |
Manylion | |
Castell canoloesol mawr yn ninas Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Castell Lincoln. Fe'i codwyd ar ddiwedd yr 11g gan Wiliam y Concwerwr ar safle caer Rufeinig. Mae'n anarferol gan fod ganddo ddau fwnt;[1] dim ond un castell arall sydd â nodwedd o'r fath, sef Castell Lewes, Dwyrain Sussex.
Mae'r castell mewn cyflwr da. Fe'i ddefnyddiwyd fel carchar hyd yn ddiweddar, ac mae Llys y Goron yn parhau yno hyd heddiw. Mae’n agored i’r cyhoedd ac mae’n bosibl cerdded o amgylch y muriau lle ceir golygfeydd o’r castell ei hun, y gadeirlan, y ddinas, a’r wlad o amgylch. Mae'r castell bellach yn eiddo i Gyngor Sir Swydd Lincoln ac mae'n heneb gofrestredig.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Lincoln Castle", Heritage Gateway; adalwyd 29 Awst 2022
- ↑ "Lincoln Castle", Historic England; adalwyd 29 Awst 2022