Casineb at wragedd

Oddi ar Wicipedia
Swetnam the Woman-Hater, a argraffwyd yn 1620. Mae'r gwaith yn cael y clod am darddiad y term Saesneg misogynist .

Mae casineb at wragedd neu gwreig-gasineb (Saesneg: Misogyny) yn casineb tuag at, neu ragfarn yn erbyn merched neu ferched. Mae'n fath o rywiaeth sy'n gallu cadw merched ar statws cymdeithasol is na dynion, a thrwy hynny gynnal rolau cymdeithasol patriarchaeth. Mae casineb at wragedd wedi cael ei arfer yn helaeth ers miloedd o flynyddoedd. Fe'i hadlewyrchir mewn celf, llenyddiaeth, strwythur cymdeithas ddynol, digwyddiadau hanesyddol, mytholeg, athroniaeth, a chrefydd ledled y byd.[1][2][3]

Enghraifft o casineb at wragedd yw trais yn erbyn menywod, sy'n cynnwys trais yn y cartref ac, yn ei ffurfiau mwyaf eithafol, terfysgaeth gwreig-gasineb a benywladdiad. Mae casineb at wragedd hefyd yn aml yn gweithredu trwy aflonyddu rhywiol, gorfodaeth, a thechnegau seicolegol gyda'r nod o reoli menywod, a thrwy eithrio menywod yn gyfreithiol neu'n gymdeithasol o ddinasyddiaeth lawn. Mewn rhai achosion, mae casineb at wragedd yn gwobrwyo merched am dderbyn statws israddol.[4][5]

Gellir deall casineb at wragedd fel agwedd unigolion, yn bennaf gan ddynion, ac fel arferiad neu system ddiwylliannol eang. Weithiau y mae casineb at wragedd yn amlygu mewn ffyrdd amlwg a beiddgar; adegau eraill mae'n fwy cynnil neu wedi'i guddio mewn ffyrdd sy'n darparu gwadu credadwy.[6]

Mewn meddwl ffeministaidd, mae casineb at wragedd hefyd yn cynnwys gwrthod rhinweddau benywaidd. Mae'n dirmygu sefydliadau, gwaith, hobïau, neu arferion sy'n gysylltiedig â merched. Mae'n ymwrthod ag unrhyw agweddau ar ddynion sy'n cael eu hystyried yn fenywaidd neu'n anwrol. Gall hiliaeth a rhagfarnau eraill atgyfnerthu a gorgyffwrdd â chasineb at wragedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. meictech (2023-02-07). "'Misogyny' – Ymladd yn Erbyn Casineb - Hafan - Meic". Hafan - Meic - llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-08.
  2. "Misogyny | Meaning of Misogyny by Lexico". web.archive.org. 2020-02-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-26. Cyrchwyd 2024-01-08.
  3. Aron, Nina Renata (2019-03-08). "What Does Misogyny Look Like?". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2024-01-08.
  4. "Definition of MISOGYNY". www.merriam-webster.com (yn Saesneg). 2024-01-02. Cyrchwyd 2024-01-08.
  5. "What is misogyny? | London City Hall". www.london.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-08.
  6. Witt, Charlotte; Shapiro, Lisa (2016), Zalta, Edward N.; Nodelman, Uri, eds., "Feminist History of Philosophy", The Stanford Encyclopedia of Philosophy (Metaphysics Research Lab, Stanford University), https://plato.stanford.edu/archives/spr2016/entries/feminism-femhist/, adalwyd 2024-01-08