Caroline Berry

Oddi ar Wicipedia
Caroline Berry
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Mae Caroline Berry yn actores o Gymraes sydd wedi ymddangos mewn cynhyrchiadau yn y Gymraeg a, gan fwyaf, yn y Saesneg. Ymhlith ei hymddangosiadau mwyaf adnabyddus a diweddar mae Gwledd (2021), The Pembrokeshire Murders (2021), It's a Sin (2021) a Requiem (2018).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Bu i Caroline astudio yn Ysgol Ddrama East 15 yn Llundain.[1]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Cynyrchiadau Cymraeg neu ddwyieithog[golygu | golygu cod]

Mae Caroline wedi ymddangos yn ffilm arswyd Gwledd, cyfres ddrama ditectif, Bang, Oed yr Addewid (2001).

Cynyrchiadau Saesneg[golygu | golygu cod]

Bu iddi ymddangos mewn gwahanol mathau o rannau mewn nifer fawr o gynyrchiadau iaith Saesneg, nifer wedi eu lleoli yng Nghymru ac â naws Gymreig fel The Pembrokeshire Murder a The Life Boat ac eraill tu allan megis, cyfresi It's a Sin, Doctors, Inspector Morse, Birds of a Feather, Mayday, Coronation Street, a Casualty. Mae wedi ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Gwledd (a ddosbarthwyd hefyd o dan deitl Feast).[2]

Cynyrchiadau eraill[golygu | golygu cod]

Mae wedi ymddangos mewn dramâu megis Swansea's Three Night Blitz a chyfresi radio ar BBC Radio Wales (Jewelsh) a BBC Radio 4, Look Who's Back.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Caroline Berry". Gwefan David Daly Associates. Cyrchwyd 28 Awst 2022.
  2. "Caroline Berry". Gwefan IMDb. Cyrchwyd 28 Awst 2022.
  3. "Caroline Berry". Gwefan David Daly Associates. Cyrchwyd 28 Awst 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]