Carlos Martínez Moreno

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Carlos Martínez Moreno
Ganwyd 1 Medi 1917 Edit this on Wikidata
Colonia del Sacramento Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Chwefror 1986 Edit this on Wikidata (68 oed)
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Wrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Cyfreithegwr, Cyfreithiwr, newyddiadurwr, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Nofelydd, ysgrifwr, beirniad llenyddol, a golygydd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Carlos Martínez Moreno (1 Medi 191721 Chwefror 1986) a oedd yn aelod o La Generación del 45.

Ganwyd yn Colonia del Sacramento, Wrwgwái. Yn y 1960au fe olygydd yr ail gyfres o'r cylchgrawn llenyddol Número.

Nodir ei waith gan fydolwg pesimistaidd ynghylch perthnasau dynol a chynnydd cymdeithasol. Defnyddiodd gyfeiriadau rhyngdestunol yn ei ffuglen, a chyfeiriadau dychanol at arlunwyr a llenorion eraill. Ysgrifennodd ysgrifau am Montevideo, La Generación del 900, yr avant-garde yn llên America Ladin, a beirniadaeth theatr.[1]

Bu farw yn Ninas Mecsico yn 68 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Daniel Balderston, "Martínez Moreno, Carlos" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 342.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • K. V. Stone, Utopia Undone: The Fall of Uruguay in the Novels of Carlos Martínez Moreno (Lewisburg, Pennsylvania: Bucknell University Press, 1994).