Neidio i'r cynnwys

Carlos Denis Molina

Oddi ar Wicipedia
Carlos Denis Molina
Ganwyd1918, 1916 Edit this on Wikidata
San José Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 1983 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bardd, dramodydd a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg ac actor a chyfarwyddwr theatr o Wrwgwái oedd Carlos Denis Molina (19181983).

Ganed yn San José de Mayo yn Nhalaith San José. Gweithiodd yn actor ac yn gyfarwyddwr y Teatro Solís. Cafodd lwyddiant gyda'r ddrama Orfeo (1949), gyda Margarita Xirgu yn y brif ran. Mynegir ei weledigaeth absẃrd mewn sawl drama, gan gynnwys Soñar con Ceci trae cola (1983) sydd yn dychanu'r unbennaeth sifil-filwrol yn Wrwgwái. Ei nofel bwysicaf ydy Lloverá siempre (1950), un o brif weithiau'r genre realaeth hudol yn llên Wrwgwái. Bu farw ym Montevideo.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Norah Giraldi Dei Cas, "Denis Molina, Carlos" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 175.