Carlo Rizzi

Oddi ar Wicipedia
Carlo Rizzi
Ganwyd19 Gorffennaf 1960 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Conservatoire Milan Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd, cerddor Edit this on Wikidata

Arweinydd Eidalaidd yw Carlo Rizzi (ganed 19 Gorffennaf 1960).

Cafodd Rizzi ei eni ym Milan, yr Eidal. Astudiodd ef cerddoriaeth yng nghonservatoire Milan. Yn hwyrach, bu'n fyfyriwr i Vladimir Delman, yn Bologna, a gyda Franco Ferrara yn Siena. Ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd opera oedd ym 1982, gyda L'ajo nell'imbarazzo Donizetti. Ym 1985, enillodd y gystadleuaeth gyntaf Arweinydd Toscanini yn Parma.

Arweiniodd Rizzi gyntaf yn y DU yng Ngŵyl Buxton 1988 gyda Torquato Tasso Donizetti, ac fe arweiniodd cynyrchiadau yn Nhŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ac Opera North. Ym mis Awst 1992, fe'i benodwyd yn gyfarwyddwr cerddorol ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), gan aros tan 2001.[1] Yn ystod ei amser dysgodd i siarad Cymraeg.[2] Yn 2004, yn dilyn ymddeoliad sydyn ei olynydd Tugan Sokhiev yn WNO, dychwelodd Rizzi fel cyfarwyddwr cerddoriaeth ar gyfer cyfnod o ddwy flwyddyn.[3] Arhosodd tan 2007.[4]

Yn 2005 arweiniodd y Vienna Philharmonic (gan lenwi ar gyfer Marcello Viotti) ar gyfer llwyfaniad Willy Decker o La traviata yng Ngŵyl Salzburg.[5] Canodd Anna Netrebko rôl Violetta, a Rolando Villazón rôl Alfredo Geront. Yn ôl bob sôn, roedd tocynnau ar gyfer y saith perfformiad wedi eu gorfwcio, gyda rhai wedi gwerthu am dros 2,000 Ewro.[6] Fe wnaeth rhai beriniaid feirniadu arwain Rizzi.[6][7]

Mae recordiadau sain Rizzi yn cynnwys fersiwn iaith-Saesneg o Kát'a Kabanová Leoš Janáček (Chandos),[8] a set DVD La traviata (Deutsche Grammophon).[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rupert Christiansen (2001-05-15). "Crunch time in Cardiff". Telegraph. Cyrchwyd 2009-05-25.
  2. Charlotte Higgins (2005-02-21). "Welsh opera has a home at last". The Guardian. Cyrchwyd 2009-05-25.
  3. Charlotte Higgins (2004-08-21). "Welsh National Opera's music director quits after discord in company". The Guardian. Cyrchwyd 2009-05-25.
  4. Vivien Schweitzer (2007-05-09). "Welsh National Opera Music Director Steps Down for Second Time". Playbill Arts. Cyrchwyd 2009-05-25.
  5. George Loomis (2005-08-24). "'Traviata' soars at Salzburg". The New York Times. Cyrchwyd 2018-08-14.
  6. 6.0 6.1 Eleonore Büning (2005-08-09). "Der schöne Tod". Frankfurter Allgemeine Zeitung (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2018-08-14.
  7. Robert Levine (28 Mehefin 2006). "Verdi: Traviata/Netrebko/Villazon DVD". classicstoday.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Awst 2018.
  8. Tim Ashley (12 Hydref 200). "Janacek: Katya Kabanova, Barker/ Henschel/ Brubaker/ WNO Chorus and Orchestra/ Rizzi". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Mai 2009.
  9. Tim Ashley (25 Tachwedd 2005). "Verdi: La Traviata, Netrebko/ Villazon/ Hampson/ Vienna State Opera Chorus/ VPO/ Rizzi". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Mai 2009.