Caregl (cwpan)

Oddi ar Wicipedia
Derrynaflan Chalice, caregl o'r 8fed neu 9fed Ganrif, wedi'i darganfod yn County Tipperary, Iwerddon

Mae caregl (o'r Lladin calix, cwpan, wedi benthyg o'r Roeg kalyx) yn obled neu gwpan gyda throed llestr a arofunnir dal diod. Mewn termau crefyddol cyffredinol, arofunnir ar gyfer yfed yn ystod seremoni.

Defnydd crefyddol[golygu | golygu cod]

Cristnogaeth[golygu | golygu cod]

Defnyddir caregl mewn llawer o draddodiadau Cristnogol i ddal gwin cymun yn ystod y Cymun Bendigaid (Ewcarist). Fel arfer, gwneir careglau allan o fetelau gwerthfawr, weithiau wedi'u haddurno gydag enamliad a gemfeini. Mae gobled aur yn cynrychioli'r teulu a thraddodiad.

Hefyd, y Caregl Sanctaidd yw'r llestr a ddefnyddiwyd gan Iesu yn Swper yr Arglwydd. Gelwir y Caregl Sanctaidd yn "Greal Sanctaidd" weithiau.

Wica[golygu | golygu cod]

Yn Wica a thraddodiadau Neo-baganaidd eraill, defnyddir caregl fel arfer gyda'r Athamé (cyllell seremonïol gyda charn du) yn y Ddefod Fawr; mae'r caregl yn cynrychioli'r fenyw, a'r athamé y dyn. Wrth gyfuno'r ddau, y mae'n weithred o genhedliad, fel symbol o greadigrwydd yr hollfyd. Yn ystod y ddefod, mae'r caregl yn cynnwys gwin neu ddŵr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]