Capel Ebenezer, Caergybi

Oddi ar Wicipedia
Capel Ebenezer, Caergybi
Mathcapel Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-RandomWilliams1908-Capel Ebenezer, Caergybi (Q29492553).wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaergybi, Cymuned Caergybi Edit this on Wikidata
SirCaergybi, Cymuned Caergybi Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr18.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.298844°N 4.628538°W Edit this on Wikidata
Cod postLL65 2TE Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Capel Ebenezer wedi ei leoli yn nhref Caergybi ar Ynys Môn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae hanes y capel hwn yn gallu cael ei lwybro’n ôl i Ysgol Sul mewn tŷ o’r enw Bodwradd sefydlwyd yn 1813. Ers hynny, mae’r ysgol wedi symud sawl gwaith. Parhaodd Ysgoldy Cweryd, sefydlwyd yn 1826, tan 1850 pan gafodd y capel cyntaf ei hadeiladu. Yn 1860, cafodd estyniad ei roi ar y capel a chafodd sawl atgyweiriad pellach yn yr 1880au. Gan gostio £1065, cafodd ysgoldy a thŷ capel ei hadeiladu yn 1891.[1]

Yn 1897, cafwyd offeryn cerdd yn y capel am y tro cyntaf. Wedi ei hadeiladu mewn dull clasurol gyda mynediad bwa, agorwyd capel newydd yn 1903. Costiodd yr adeilad newydd £5000. Gyda’r ysgoldy a’r tŷ capel yn gyfagos, mae’r Capel Ebenezer yn adeilad mawr, nodedig. Ailadeiladwyd ymhellach, gan gynnwys y ffryntiad, rhwng 1901 a 1912. Mae'r prif ffasâd wedi blocio blociau cerrig llwyd gyda gorchuddion cerrig Caerfaddon ond mae'r waliau allanol wedi'u torri â cherrig mân. Mae'r to o lechi.

Yn ôl sôn, dechreuodd Band of Hope Caergybi yn yr Ebenezer. Erbyn hyn, mae’r capel wedi cau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Geraint I. L. (2007). Capeli Môn. Gwasg Carreg Gwalch. t. 73. ISBN 1-84527-136-X.