Capel Beulah, Aberffraw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Beulah a bwthyn Pen-y-lan

Mae Capel Beulah wedi ei leoli ym mhentref Aberffraw, mewn ardal o’r enw Pen y Cnwc, Ynys Môn .

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl y son y capel hwn yw'r capel Presbyteraidd lleiaf yn Ynys Môn, efallai yng Nghymru gyfan.

Adeiladwyd cyffiniau'r Capel yn 1797, gyda’r capel cyntaf wedi cwblhau erbyn 1827. Cafodd y capel presennol ei adeiladu yn 1879 am £400, cafodd y tŷ capel ei ychwanegu yn 1898 ar gost o £250. Cyflwynwyd yr organ gyntaf yn 1939, yn ogystal â hyn, cafodd y capel drydan yn 1966.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dywedwyd bod milwyr o'r Llu Awyr wedi ceisio defnyddio'r capel dros defnydd ei hunain, er nad oeddent wedi llwyddo i wneud.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. I. L.Jones, Geraint (2007). Capeli Môn. Wales: Gwasg Carreg Gwalch. p. 34. ISBN 1-84527-136-X.