Canvey Island
Math | tref, plwyf sifil, ynys mewn afon |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Castle Point |
Poblogaeth | 37,000, 38,327 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Essex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 18.45 km² |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.525°N 0.5725°E |
Cod SYG | E04003950 |
Cod OS | TQ789829 |
Cod post | SS8 |
Tref, plwyf sifil ac ynys ar Aber Tafwys yn Essex, Dwyrain Lloegr, ydy Canvey Island.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Castle Point.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 38,170.[2]
Mae'r ynys wedi'i gwahanu oddi wrth dir mawr de Essex gan rwydwaith o fornentydd a sianeli. Mae'n gorwedd ychydig yn uwch na lefel y môr, ac mae'n tueddu i ddioddef llifogydd mewn llanwau eithriadol, ond serch hynny mae pobl wedi byw ynddi ers goresgyniad y Rhufeiniaid ar Brydain.
Tir amaethyddol oedd yr ynys yn bennaf tan yr 20g, pan ddaeth yn gyrchfan glan môr. Rhwng 1911 a 1951 dyma'r cyrchfan glan môr sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain.
Cafodd yr ynys ei diffeithio gan lifogydd Môr y Gogledd ym 1953, a laddodd 58 o ynyswyr ac a orfododd y 13,000 o drigolion i adael eu cartrefi. O ganlyniad, mae Canvey yn cael ei amddiffyn gan amddiffynfeydd môr modern sy'n cynnwys 2 filltir (3.2 km) o waliau môr concrid.
Mae Ynys Canvey hefyd wedi bod yn ganolfan storio a dosbarthu bwysig ar gyfer y diwydiant petrocemegol ers 1936.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Gorffennaf 2019
- ↑ City Population; adalwyd 12 Gorffennaf 2019
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Canvey Island dan ddŵr yn ystod llifogydd 1953
-
Tanciau storio olew a nwy yn South Hole, Canvey Island
-
Tafarn The Lobster Smack wrth ymyl rhan o'r amddiffynfeydd môr
-
Stryd Fawr, Canvey Island
Dinas
Chelmsford
Trefi
Basildon ·
Billericay ·
Braintree ·
Brentwood ·
Brightlingsea ·
Burnham-on-Crouch ·
Canvey Island ·
Clacton-on-Sea ·
Coggeshall ·
Colchester ·
Corringham ·
Chigwell ·
Chipping Ongar ·
Dovercourt ·
Epping ·
Frinton-on-Sea ·
Grays ·
Great Dunmow ·
Hadleigh ·
Halstead ·
Harlow ·
Harwich ·
Leigh-on-Sea ·
Loughton ·
Maldon ·
Manningtree ·
Purfleet-on-Thames ·
Rayleigh ·
Rochford ·
Saffron Walden ·
South Benfleet ·
South Woodham Ferrers ·
Southend-on-Sea ·
Southminster ·
Stanford-le-Hope ·
Tilbury ·
Thaxted ·
Walton-on-the-Naze ·
Waltham Abbey ·
West Mersea ·
Wickford ·
Witham ·
Wivenhoe