Canclwm Japan

Oddi ar Wicipedia
Canclwm Japan neu Llysiau'r Dial
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Core eudicots
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Polygonaceae
Genws: Fallopia
Rhywogaeth: F. japonica
Enw deuenwol
Fallopia japonica
Houtt. (Ronse Decr.)

Planhigyn o Japan ydy Canclwm Japan neu Llysiau'r Dial (Lladin: Fallopia japonica; Saesneg: Japanese Knotweed).

Cyflwynwyd llysiau'r dial i wledydd Prydain yng nghanol y 19C fel planhigyn addurnol i’r ardd. Dros amser, mae wedi ymledu’n eang mewn gwahanol gynefinoedd, gan gynnwys ymylon ffyrdd, llwybrau trafnidiaeth, glannau afonydd, adfeilion, cyrsiau dwr, ac ardaloedd o dir gwastraff. Mae'n broblem gynyddol mewn ardaloedd yng Nghymru yn enwedig Dolgellau.[1] Yn Nolgella, bwriada Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ei chwistrellu â chwynladdwr.

Dyma rai o'i nodweddion:

  • lliw gwyrdd toreithiog
  • dail ar ffurf rhaw
  • mae’r coesyn yn edrych fel bambŵ
  • mae’n cynhyrchu blodau gwynion yn ystod Medi neu Hydref
  • gall dyfu cymaint â 10 cm y diwrnod

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. lleol.cymru; adalwyd 20 Medi 2016.