Can y milwr (cerdd)

Oddi ar Wicipedia
Can y milwr
Enghraifft o'r canlynolcerdd Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Cerdd Gymraeg gan Karen Owen ydy "Cân y Milwr". Cerdd am ryfel yw hi, a'r atgofion o fachgen yn cael ei yrru i rhyfel Affganistan. Sonir am y gofal yr oedd yn ei gael gan y fyddin, a'i swydd yno.

Mae'r gerdd yn delyneg ar fydr ac odl.

Karen Owen[golygu | golygu cod]

Mae Karen Owen yn fardd, golygydd a newyddiadurwraig, ac wedi ennill dros 30 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol, yn ogystal wedi dod yn agos iawn i ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru dwy waith.

Un o hoff straeon sgrin fawr Karen Owen yw Hedd Wyn (ffilm) gan ei fod o'n "arwr o filwr cyffredin", sy'n dangos ei bod yn poeni am y bobl cyffredin, a fod y testun o ryfel yn rhywbeth pwysig iddi hi.

Iaith ac Arddull[golygu | golygu cod]

Mae'r defnydd o eironi yn cael ei ddangos drwy'r gyffelybiaeth

Tra'i cludir o adre', fel bwled trwy'r gwynt,

Mae'r eironi yn pwysleisio er ei fod wedi cael ei ladd yn y rhyfel, mae'r elfen o ryfel yn dal i barhau.

Mae'r gerdd yma yn ymdrin â'r themâu Rhyfel a Chreulondeb, yn ogystal â Gwerthoedd Cymdeithas.